Neidio at y cynnwys

S4C

Wynebau Newydd

Wynebau Newydd: Y Cymro a'r Catwalk

Golwg y tu ôl i'r llenni wrth baratoi ar gyfer Wythnos Ffasiwn Llundain fydd i'w gweld yn ail bennod y gyfres ddogfen Wynebau Newydd.

Cyn fodel yw'r cynllunydd o Gaerdydd. Elliott Frieze, yn wreiddiol. Yn 2008 sefydlodd Elliott a'i bartner busnes label newydd, ac yn y rhaglen gwelwn eu paratoadau ar gyfer eu sioe ffasiwn gyntaf i lansio'r cwmni.

Yn ystod y rhaglen, cawn ddilyn Elliott a'i gydweithwyr yn yr wythnosau sy'n arwain at y sioe uchelgeisiol sy'n werth dros £100,000. O'r broses o wneud y dillad hyd at gyflogi'r modeli, dyma olwg ar y gwaith caled sydd y tu ôl i sglein y byd ffasiwn.

Daw enw'r cwmni oddi wrth bartner busnes Elliott, Khalid bin Sultan Al Qasimi, sy'n fab i frenin teyrnas Sharjah yn yr United Arab Emirates, Dwyrain Canol. Esbonia Elliott, "Mae'n anodd credu bod Khalid a finnau wedi sefydlu label Qasimi a'n bod ni'n mynd i fod ar y catwalk eleni efo tair supermodel. Mae'n deimlad cyffrous iawn.

Mae Erin O'Connor a Jade Parfitt ymhlith y modelau adnabyddus sy'n cymryd rhan yn sioe Elliott a Khalid. Ond gydag un o fodelau Qasimi yn tynnu allan ar y funud olaf, a fydd y ddau gynllunydd yn gallu dod o hyd i rywun i gymryd ei lle?

Dolenni Wynebau Newydd:

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales