Wrth ffilmio chef ifanc o Gymro ym mwyty Gordon Ramsay yn Efrog Newydd ar gyfer y gyfres ddogfen Wynebau Newydd, darganfu’r criw cynhyrchu eu hunain yng nghanol drama llawn tensiwn a chyffro. Roeddent yno yng ngwres y gegin pan wnaeth arolygwyr Michelin ymweld yn annisgwyl â’r bwyty.
Fe lwyddodd bwyty Gordon Ramsay at the London yn Efrog Newydd i ennill dwy seren Michelin y noson honno, diolch i’r prif gogydd yno, Josh Emett, a’i griw talentog, a oedd yn cynnwys chef ifanc o Ynys Môn, Aled Glyn Williams.
Rhai misoedd ynghynt, mewn cystadleuaeth ffyrnig, roedd Aled, a oedd ar y pryd yn 24 oed, wedi llwyddo i guro 200 o chefs ifanc eraill i ennill Ysgoloriaeth Gordon Ramsay, a’r cyfle i fagu profiad trwy weithio yn y bwyty yn Efrog Newydd, a derbyn hyfforddiant mewn gwinllan yn Awstralia.
“Dwi isho bod y gorau,” meddai. “Dwi isho dysgu gan y chefs eraill. Y diwrnod fydda i’n stopio dysgu yn y gegin ydy’r diwrnod y bydd yn rhaid i mi adael.”
Ar ôl treulio amser yn Efrog Newydd ac Awstralia, mae Aled hefyd wedi gweithio am fis ym mwyty chef amlwg arall, Heston Blumenthal, sef y Fat Duck yn Bray. Yn awr, mae’n dychwelyd i Gymru i weithio fel Prif Gogydd ym mwyty pum seren Plas Bodegroes ger Pwllheli ym Mhen Llŷn.
“Dwi isho agor llygad y Cymry,” meddai Aled. “Dwi isho iddyn nhw ddŵad i fwyty Aled Williams a chael bwyd tydyn nhw erioed wedi ei gael o’r blaen.”
© 2008 S4C
O Gymru / Made in Wales