Sut mae'r ymennydd yn delio â dysgu dwy iaith o'r crud? Oes manteision neu anfanteision? A beth yw'r goblygiadau ar gyfer plant Cymru? Dyna faes ymchwil Enlli Thomas, gwyddonydd ifanc ym Mhrifysgol Bangor a thestun nesaf cyfres Wynebau Newydd.
Un maes sy'n diddori Enlli yw effaith dwyieithrwydd ar blant. Mae hi wedi bod yn cydweithio ar raglen ymchwil mewn ysgolion i geisio mesur manteision dwyieithrwydd ymhlith y disgyblion.
Bydd y rhaglen yn dilyn Enlli wrth iddi deithio i Brifysgol York yn Toronto, Canada lle mae Ffrangeg a Saesneg yn byw ochr yn ochr. Yno, mae'n cwrdd ag Ellen Bialystock sy'n arbenigwr byd enwog ar ddwyieithrwydd ac yn gwneud gwaith arloesol yn y maes.
Ond nid plant yn unig all fanteisio ar ddwyieithrwydd. Mae prosiect ymchwil arall yn Ysbyty Baycrest yn Toronto yn dangos y gall dwyieithrwydd fod o gymorth ar ddiwedd ein taith drwy fywyd.
Mae'n ymddangos bod dementia yn yr henoed yn datblygu'n llawer mwy araf mewn pobl ddwyieithog a bod siarad dwy iaith yn gallu atal effeithiau dementia am hyd at bedair blynedd.
Er mai dim ond dechrau mae'r ymchwil newydd yma, mae Enlli'n edrych ymlaen yn barod at ei phrosiect nesaf.
"Da ni'n lwcus iawn yng Nghymru i gael dwy iaith a thraddodiad cerddorol cryf iawn. Un peth sydd yn fy niddori i ydi'r effaith mae chwarae cerddoriaeth yn ei chael ar yr ymennydd. Efallai mai dyna'r trywydd ymchwil nesa fydda i'n mynd ar ei ôl."
© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales