Neidio at y cynnwys

S4C

Wynebau Newydd

Wynebau Newydd: DJ yn Beijing

Hanes Cymro sy'n DJ a hyrwyddwr clybiau yn Beijing yw testun y rhaglen hon yng nghyfres Wynebau Newydd.

Mae Wynebau Newydd: DJ yn Beijing yn dilyn Marek Griffith, neu DJ Marek, am wythnos wrth iddo weithio ym myd clybiau dawns prifddinas Tsieina. Mae Marek yn byw yn Beijing ers 2005, ac mae'n cael digon o waith yno.

"Dwi 'di cael cynnig jobsys yn helpu bars, helpu clybiau, helpu promotio. Dwi ddim yn meddwl 'sa'r un peth yn digwydd adra'," meddai Marek sy'n 28 mlwydd oed ac yn dod o Fangor yn wreiddiol.

Yn ystod y rhaglen - sy'n cynnwys trac cerddorol amrywiol gyda thraciau gan Jamie Woon a'r Fun Lovin' Criminals - mae egni a bwrlwm Marek yn amlwg wrth iddo'n tywys ar daith ddifyr trwy glybiau nos Beijing.

Yn ogystal â'i swyddi eraill yn hybu a hyrwyddo gwahanol nosweithiau, a dysgu nofio i blant yn ei bwll nofio lleol, mae Marek yn DJ enwog yn Tsieina ac yn cael ei gyflogi i chwarae mewn dinasoedd ledled y wlad.

Dolenni Wynebau Newydd:

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales