Neidio at y cynnwys

S4C

Wynebau Newydd

Wynebau Newydd: Dringo i'r Eitha'

Mae Ioan Doyle, 17 oed o Fethesda, Gwynedd, yn cael ei ystyried yn ddringwr ifanc o ddawn eithriadol. Mae'r ffilm ddogfen hon yn ei ddilyn dros haf 2007 wrth iddo roi cynnig ar rai o ddringfeydd anodda'r byd.

Y dyn camera Alun Hughes, dringwr abl ei hun sydd wedi ffilmio nifer o sêr y byd dringo, fu'n dilyn yr hogyn o Fethesda wrth iddo wynebu sialensiau yn Eryri, Ynys Kalymnos yng Ngwlad Groeg a Dyffryn Yosemite, Califfornia, UDA.

Ond nid y dringfeydd serth a fydd yn peri i wylwyr afael yn dynn ym mreichiau'r soffa yw unig ddrama'r ffilm hon. Mae hefyd yn bortread cofiadwy o fywyd, gobeithion ac ofnau Ioan ei hun, ei fam Catrin, ei fentor a phartner dringo, Malcolm ‘Mills' Davies, ynghŷd â'i deulu a'r gymuned estynedig.

Eglura Alun Hughes, cynhyrchydd a chyfarwyddwr y rhaglen, “Hanes yw hwn am ddringwr ifanc sy'n eithriadol o alluog am un mor ddibrofiad, ac aethom ni i'w ddilyn am haf cyfan wrth iddo wynebu sialensiau dringo anodd. Ond hefyd, mae'r ffilm yn bortread o hogyn sydd wrthi'n aeddfedu fel dringwr ac fel person ac am deimladau ei fam a'i hyfforddwr dringo wrth iddyn nhw orfod gollwng gafael arno. Mae'n rhaglen ddringo a fydd yn apelio at gynulleidfa eang.”

Mae gwefr ac angerdd Ioan ei hun am ddringo yn amlwg, “Rhan o'r hyn wy'n mwynhau am ddringo yw ei bod yn mynd â fi i fyd arall. Dwi'n licio mynd â'n hun i sefyllfa ofnadwy o beryg a rheoli pethau. Cyrraedd y top ydi'r teimlad gorau posib - sdim byd tebyg iddo... Dwi ishe cyrraedd y safon gorau a gwneud y routes caletaf yn y byd. Y cam nesaf ydi ennill bach o bres ac awê!”

Dolenni Wynebau Newydd:

© 2008 S4C
O Gymru / Made in Wales