Rhaglen ddogfen fydd yn datgelu gwir wyneb yr arwr cenedlaethol Owain Glyndŵr am y tro cyntaf ar deledu.
Bydd y rhaglen Wyneb Glyndŵr yn mynd â ni ar siwrnai gyffrous i ail-greu wyneb y Tywysog Cymreig o'r Oesoedd Canol gan ddefnyddio'r dechnoleg gyfrifiadurol 3D a CGI (computer generated imaging) ddiweddaraf.
Fe ddechreuodd Owain Glyndŵr wrthryfel yn erbyn Coron Lloegr yn 1400 a hawlio mai fe oedd Tywysog Cymru - ond does neb yn gwybod sut roedd yn edrych. Mae'r ddogfen hon ar fin newid hynny.
Wedi'i chyflwyno gan yr actor Hollywood adnabyddus, Julian Lewis Jones, mae'r dirgelwch yn dechrau nes at adre' yng Nghorwen a Chaerdydd, ond mae rôl arbenigwr yn America a darganfyddiad rhyfeddol mewn hen archif ym Mharis yn rhoi blas rhyngwladol i'r siwrnai.
Mae'r ymchwiliad yn cynnwys defnyddio technegau dad-heneiddio sy'n cael eu defnyddio gan asiantaethau fel yr FBI i ddatrys achosion o gipio plant.
Mae Julian - sy'n cyflwyno'r ddogfen yn steil y ditectif carismatig Indiana Jones - yn ymchwilio i gysylltiadau agos Glyndŵr â'r teulu Scudamore. Fe gawn weld sut y gall darganfyddiad a wnaed yng nghartref hynafol y teulu arwain at ddatrys y dirgelwch 600 mlwydd oed.
Fe ddechreuodd y broses o greu pen Glyndŵr trwy greu masg sylfaenol o'i gofgolofn farmor yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd. Fe wnaed ymchwil manwl wedyn i nodweddion wyneb yr arwr gan gasglu tystiolaeth o destunau hynafol, llyfrgelloedd a hen luniau.
O dan arweinid Antonis Kotsias, fe ddefnyddiodd tîm graffeg o Wlad Groeg y technegau CGI diweddaraf i ail greu pen Glyndŵr ar sail gwaith ymchwil. Fe wnaeth y data gael eu defnyddio gan artistiaid 3D i greu model 3D o'r pen gan ychwanegu'r croen, llygaid a'r gwallt.
© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales