Neidio at y cynnwys

S4C

Y Cleddyf

Y Cleddyf gyda John Ogwen

Hanes y cleddyf mewn cyfres liwgar, gyffrous

O Brydain Geltaidd i ddyddiau Hollywood, mae'r cleddyf wedi sefyll dros rym, cyfiawnder a'r frwydr yn erbyn drygioni am filoedd o flynyddoedd.

Mewn cyfres hanes llawn cyffro ar S4C Y Cleddyf gyda John Ogwen, mae'r actor, John Ogwen yn olrhain hanes yr arf hudolus, farwol, sydd yn aml wedi troi hanes yn un antur fawr arwrol.

Yn ystod y gyfres, bydd John Ogwen yn ein harwain ar daith sy'n cychwyn yn oes y cerrig, pan fyddai dyn yn hogi darnau o fflint ar gyfer hela. Mae'n egluro sut y datblygodd y cleddyf yn arf rhyfela dros ganrifoedd, cyn troi'n fwy o symbol o bŵer yn yr oes fodern.

Y cleddyf a'r Cymry

Meddai'r cynhyrchydd, Mary Simmonds, "Mae'r gyfres yn egluro pam mae'r cleddyf wedi aros yn symbol ac yn arf mor bwerus dros filoedd o flynyddoedd. Yn ogystal ag olrhain rôl y cleddyf yn hanes y byd, mae'n dangos pa mor ganolog yw'r arf yn ein hunaniaeth ni fel Cymry.

"Mae gwreiddiau chwedl Arthur a'i gleddyf Caledfwlch yn hanes ein cyndeidiau pell ac mae'r cleddyf yn parhau i fod yn ganolog yn seremonïau'r Eisteddfod Genedlaethol bob blwyddyn."

Mae taith John Ogwen yn cychwyn o dan greigiau'r Gogarth yn Llandudno, safle gweithiau copr hynafol lle y cloddiwyd y metel i gynhyrchu helmedau, tariannau a chleddyfau.

Mae'r rhaglen yn mynd ati i ddangos sut y datblygodd y cleddyf yn arf mor allweddol i'r Ymerodraeth Rufeinig ac yn ddiweddarach i'r Brythoniaid, Llychlynwyr ac Eingl-Sacsoniaid wrth iddynt frwydro am oruchafiaeth ar dir Prydain.

Y cleddyf mewn ffilm

Mae dau o sêr Cymreig Hollywood, Ioan Gruffudd a Matthew Rhys, ymhlith y rhai sy'n cyfrannu i'r gyfres bedair rhan sy'n ail-greu brwydrau a chwedlau'n ymwneud â'r cleddyf.

Mae John hefyd yn cael cyfle i gleddyfa yn null y Gladiator Rhufeinig ac mae ei gyd-actorion Matthew Rhys ac Ioan Gruffudd yn datgelu eu hangerdd am yr arf.

Meddai Mary Simmonds: "Cafodd y ddau gyfle i drin y cleddyf fel rhan o'u hyfforddiant fel actorion yng ngholeg RADA.

"Yn y rhaglen, mae Matthew yn datgelu ei falchder am y cysylltiad rhwng y Celtiaid a'r cleddyf a'r wefr o ddal yr arf, tra bod Ioan yn sôn am ei rôl fel Lancelot, un o farchogion Ford Gron Arthur, yn y ffilm King Arthur."

© 2010 S4C
O Gymru / Made in Wales