Neidio at y cynnwys

S4C

Y Daith

Y Daith

Plant yn ail-greu taith enwog Mari Jones

Mae cyfres ddogfen newydd ar S4C, sy'n mynd ar hynt chwe phererindod ysbrydol, yn dechrau gyda thaith sy'n dilyn ôl troed Mari Jones i'r Bala i brynu Beibl.

Mae pob siwrnai yn y gyfres Y Daith yn wahanol iawn i'w gilydd ond maen nhw i gyd yn rhoi cyfle i'r cyfranwyr a'r gwylwyr gartre' drafod gwir ystyr crefydd, ffydd a chred yn yr oes fodern.

Ar y daith gyntaf, cawn gyfarfod criw o blant, eu rhieni ac arweinwyr Ysgolion Sul o Lanegryn, Abergynolwyn a Thywyn yng Nghanolbarth Cymru wrth iddynt ddilyn ôl troed Mari Jones o'i chartre' yn Nhyn-y-ddol, Llanfihangel-y-Pennant i'r Bala.

Ysbrydoliaeth

Mae'r daith 25 milltir a wnaeth y ferch 16 oed yn droednoeth ym 1800 i nôl copi Cymraeg o'r Beibl yn un o straeon enwocaf hanes crefydd yng Nghymru. Dyma'r daith a ysbrydolodd un o arweinwyr mawr y Methodistiaid Calfinaidd, y Parch Thomas Charles, i sefydlu'r Gymdeithas Feiblaidd Frutanaidd a Thramor.

Ond mae'r rhaglen hon nid yn unig yn olrhain yr hanes ond yn holi pa mor berthnasol yw'r stori i bobl heddiw wrth i gamerâu cwmni Unigryw ddilyn y criw o 28 o bobl ar droed, bws a thrên trwy rai o ardaloedd mwyaf ysblennydd Meirionnydd.

Ar y daith, fe ddown i nabod y plant, eu teuluoedd a'r athrawon yn ogystal â chlywed hanes cyfarwydd taith Mari trwy lygaid pobl sy'n byw yn y fro lle y magwyd hi.

Y Cerddwyr

Ymhlith y cerddwyr mae eu gweinidog, y Parch Terry Edwards, sydd wedi ymddiddori yn hanes y diwygiad Methodistaidd.

A beth sydd gan y plant eu hunain i'w ddweud am y daith? Mae Dafydd yn teimlo ei fod wedi cerdded yn bell ond wedi cael hwyl. Mae Jordan yn teimlo'n dda o wybod bod pawb wedi gorffen.

Ac meddai Elin, "Pan o'n i ar y daith roedd o'n brifo achos roedd fy sgidiau i wedi mynd yn rhy fach. Yn yr wythnos dwi'n mynd i gael rhai newydd." Mae'n dda bod hi heb fynd yn droednoeth!

© 2010 S4C
O Gymru / Made in Wales