Taith ryfeddol dau genhadwr ifanc o Geredigion i Fadagascar yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg sy'n cael ei holrhain a'i thrafod yn y rhaglen ddogfen hon. Mae'r rhaglen yn cychwyn cyfres newydd o deithiau ysbrydol, Y Daith, sy'n trafod gwir ystyr crefydd, ffydd a chred yn yr oes fodern.
Y newyddiadurwr, golygydd ac awdur, Dylan Iorwerth, sy'n cyflwyno O Ddyffryn Aeron i Fadagascar, ac mae yntau wedi ei gyfareddu gan stori'r ddau genhadwr yn eu hugeiniau, David Jones a Thomas Bevan, a deithiodd i Fadagascar ym 1818. Addysgwyd y ddau yn Academi Neuaddlwyd ger Aberaeron, a sefydlwyd dau gan mlynedd yn ôl i hyfforddi gweinidogion a chenhadon.
"Dwi'n gyfarwydd â stori Neuaddlwyd ers i mi symud i fyw i Geredigion," meddai Dylan. "Ro'n i am ddilyn ôl eu traed a cheisio deall pam eu bod nhw wedi mentro cymaint. Roedd y syniad o genhadu yn anodd gen i - gwthio un diwylliant ar ddiwylliant arall, ond mi ro'n i hefyd yn edmygu grym eu ffydd. Y cwestiwn o'n i am geisio ei ateb oedd faint o ddylanwad a gawson nhw ar bobl Madagascar."
Yn ystod y rhaglen cawn weld Dylan yn ymweld â'r union fan ar yr ynys lle glaniodd David Jones a Thomas Bevan ar 6 Awst, 1818, ac yna'n teithio oddi yno i'r brifddinas, Antananarivo, taith a wnaeth David Jones ym1820 er mwyn ceisio cael cefnogaeth arweinydd y wlad, y Brenin Radama.
Yn ystod yr wythnos o ffilmio ar yr ynys, mi gafodd Dylan sawl profiad cofiadwy, yn cynnwys gwasanaeth mewn capel bach ger y traeth lle glaniodd y ddau genhadwr. "Mi roedd yn dod â lwmp i'r gwddw yn sicr. Mi allech chi ddychmygu nad oedd y pentre' heb newid rhyw lawer ers dyddiau David Jones a Thomas Bevan. Mi wnaethon ni gerdded i lawr i'r traeth wedyn ac roedd y plant yn dawnsio ac yn canu emynau. Mi fydd eu lleisiau nhw yn aros yn fy nghlustiau i am gyfnod maith.
Mae rhaglenni eraill y gyfres yn cynnwys Lyn Ebenezer a Charles Arch yn rhannu'r ffydd maen nhw wedi dychwelyd ati wrth deithio o Abaty Cwm Hir i Ystrad Fflur, criw o Glwyd yn ymweld â phasiant Oberammergau yn Ne'r Almaen, hanes y Crynwyr yn ardal Dolgellau, Iddew a Mwslim yn rhannu taith i Jeriwsalem, a Menna Machraeth yn teithio i Dde Affrig gan edrych ar waith y Tear Fund yno.
© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales