Dilynwn griw o deithwyr o Glwyd wrth iddynt ymweld â phasiant enwog Oberammergau ym Mafaria, yn yr Almaen.
Cynhelir y Pasiant bob deng mlynedd. Eleni roedd 2,000 o actorion, cantorion, offerynwyr a thechnegwyr yn rhan o'r perfformiad, i gyd yn byw ym mhentref Oberammergau, neu wedi cael eu geni yno.
Cynhaliwyd y Pasiant cyntaf yn y pentref ym 1634, ar ôl i'r pentrefwyr dyngu llw y buasent yn cynnal drama am fywyd a marwolaeth Crist bob deng mlynedd petaent yn cael eu gwarchod rhag y pla a oedd wedi taro'r ardal.
Trefnwyd y daith arbennig hon gan y Parchedig Wayne Roberts o Lanrhaeadr. Mae'n gofalu am un ar ddeg o gapeli yn yr ardal, ac yn ôl bob sôn, yn drefnydd teithiau penigamp!
"Mae eisiau crefydd a chips," meddai. "Mae'n rhaid cael mwynhad ar y teithiau hyn hefyd."
Mae 'na gyffro wrth i'r criw baratoi ar gyfer eu taith. Un sy'n edrych ymlaen yn fawr yw Enid Mair Davies o Eglwysbach. "Mae'n gyfle i wireddu breuddwyd oes," meddai Enid, a gollodd ei merch, Meinir, dair blynedd yn ôl. "Mae'n anodd. Mae'n anodd efo ffydd," ychwanega. "Tydi Duw ddim yn eich stopio chi rhag cael profedigaethau ond mae Duw yn eich cynnal chi."
© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales