Neidio at y cynnwys

S4C

Y Daith: Ystrad Fflur

Y Daith

Yn ôl i Ystrad Fflur

Dilynwn ddau hen ffrind wrth iddynt deithio ar hyd llwybr pererinion o Abaty Cwm-hir ym Mhowys i Abaty Ystrad Fflur yng Ngheredigion.

Sefydlwyd Abaty Cwm-hir gan y Sistersiaid yn 1143, ac yma y claddwyd Llywelyn ap Gruffydd, tywysog olaf Cymru. Credir fod yr Abaty yn Ystrad Fflur wedi cael ei sefydlu gan y Sistersiaid yn 1164, dan nawdd yr Arglwydd Rhys, tywysog Deheubarth. Dywedir i'r bardd Dafydd ap Gwilym gael ei gladdu yma ym 1380 o dan ywen sy'n parhau i dyfu yno heddiw.

Charles Arch a Lyn Ebenezer yw'r teithwyr. Mae Charles yn ffigwr amlwg yn y byd amaethyddol yng Nghymru, ac mae Lyn wedi gwneud ei farc fel newyddiadurwr ac awdur craff. Magwyd y ddau yn ardal Pontrhydfendigaid, ac mae'r ddau erbyn hyn wedi dychwelyd i fyw yno, wedi cyfnod hir i ffwrdd.

Wrth wrando ar y ddau yn sgwrsio'n hamddenol cawn hefyd rannu eu hatgofion a'u profiadau, a chawn weld dylanwad yr eglwys a'r capel ar eu bywydau heddiw.

Ers iddo ddychwelyd adref mae Eglwys Ystrad Fflur yn chwarae rhan ganolog ym mywyd Charles. Mae'n Warden yno. Mae Lyn yn addoli ac yn pregethu yng Nghapel Rhydfendigaid ar ôl ailafael yn ddiweddar yn yr arferiad o fynd i'r capel. "Wnes i ddim colli ffydd erioed ond yr esgus oedd doedd dim angen fi yno. Dwi'n ceisio creu pregeth boblogaidd sydd ddim yn rhy ddiwinyddol. O'r funud y cawn ni eu geni, rydym yn cychwyn ar daith, a thaith un ffordd yw honno," meddai.

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales