Dyma raglen ddogfen awr o hyd ynghyd â chyfres o raglenni byrion sy’n olrhain lle Croes Crist yng nghelfyddyd y gorllewin. Mae'r rhaglenni wedi eu sgriptio a’u lleisio gan y Prifardd Mererid Hopwood.
Mae’r stori yn cychwyn gyda chroeshoeliad yr Iesu a lluniau amrwd y Cristnogion cyntaf ar furiau Catacwmau Rhufain, wrth iddynt gadw eu crefydd dan ddaear.
Cyn diwedd y daith, cawn weld dehongliadau modern Munch, Francis Bacon a Salvador Dali - pob un wedi ei ysbrydoli, boed yn Gristion neu’n anffyddiwr, gan yr hanes ysgytwol. Cyflogodd Dali artist stýnt o Hollywood fel gwrthrych ar gyfer ei ddarlun yntau o’r croeshoelio.
Mae nifer o drysorau yng Nghymru hefyd. Yn ogystal â Chroes Nanhyfer, yn Eglwys Partishow ym Mhowys mae croglen (rood screen) wedi’i cherfio - un o’r pedwar croglen yn unig a oroesodd y diwygiad Protestannaidd yn yr 1530au.
“Mae hon yn daith faith drwy’r oesoedd, o’r Croeshoeliad hyd ddiwedd y Romanésg, trwy gyfnod y dadeni a’r Oes Oleuedig nes cyrraedd y byd modern a’r dylanwad mae’r Groes yn ei gael ar gelf y dyddiau hyn,” eglura Mererid Hopwood.
“O holl grefyddau’r byd, prin bod un wedi defnyddio delweddau’n fwy na Christnogaeth. A’r ddelwedd fwyaf trawiadol ohonyn nhw i gyd yw delwedd y Groes.”
© 2008 S4C
O Gymru / Made in Wales