Yn y gyfres hon bydd y cyn chwaraewr rygbi Scott Quinnell yn mynd ar hyd a lled Cymru yn troi ei law at bob math o weithgareddau a phrofiadau amrywiol. Cyfle i ymarfer ei Gymraeg a dysgu geirfa newydd wrth gael llond ei fol o hwyl. Yr wythnos hon mae'n rhoi cynnig ar arlunio byw, Cartio ac yn cael gwers arwyddo Makaton.
Mae Bradley'n ceisio aros yn sobor a gorffen ei oriau gwaith di-dâl er mwyn cwblhau ei gyfnod Ar Brawf. A hithau wedi stopio yfed ers bron i flwyddyn, mae cyfnod Tiffany Ar Brawf ar fîn dod i ben. Jo a Lynne ydy'r Swyddogion sy'n ceisio'u hatal rhag troseddu eto, a chadw'r cyhoedd yn ddiogel.
Alex Jones sy'n mynd ar daith bersonol i ddarganfod mwy am hanes yr iaith Gymraeg. Yn ôl yn Rhydaman mae'n darganfod beth oedd effaith y Chwyldro Diwydiannol ar yr iaith. Yn 1911 roedd miliwn o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru, ond erbyn 1951 roedd yr iaith ar y dibyn. Beth ddigwyddodd' Bydd yn darganfod mwy am yr ymdrechion arwrol i achub yr iaith, a rôl hanfodol ysgolion Cymraeg yn ei dyfodol. Rhaglen sy'n dathlu'r Gymraeg, Cymreictod a dros 1500 o flynyddoedd o hanes.
Cyfres newydd gyda Francesca Sciarrillo a Joe Healy, cyn enillwyr Dysgwr y Flwyddyn yr Eisteddfod Genedlaethol, yn bwrw golwg dros y sîn greadigol ifanc yng Nghymru. Yn y bennod yma byddwn yn blasu gwinoedd Cymreig, dysgu am bensaerniaeth ac am brosiectau cymunedol yn Abertawe cyn treulio amser gyda'r comedïwr Leila Navabi.
Mae Sain Ffagan yn ddatgelu mwy o'i thrysorau a'i straeon. Mae'r cloc eiconig, a achubwyd o drychineb Aberfan, yn cael ei symud yn ofalus i'w le ar gyfer arddangosfa. Mae Brian y Ffarmwr angen gwneud gwaith atgyweirio ar gatiau a ffensys hanesyddol ac mae'r Siop Teiliwr yn drysorfa o wrthrychau.