Bydd y rhaglen ddogfen hon yn dilyn yr her enfawr o adeiladu canolfan wybodaeth a chaffi newydd ar gopa’r Wyddfa.
Yn y rhaglen gall wylwyr ddilyn y broses trwy lygaid chwe pherson sydd wedi gwneud cyfraniad pwysig i’r fenter.
“Rydym yn cael golwg bersonol ar y prosiect, ac yn sylweddoli pa mor bwysig yw cyfraniad pob un sydd wedi bod yn gweithio’n galed i sicrhau llwyddiant y fenter,” meddai cynhyrchydd y rhaglen, Iestyn Garlick.
Y chwech y byddwn yn eu dilyn yn ystod y rhaglen yw Geraint Bowen, peiriannydd gyda chwmni ARUP o Wrecsam, Gwyrfai Williams, gyrrwr trên o Lanberis, Tecwyn Hughes, rheolwr adeiladu ar ran Parc Cenedlaethol Eryri, Eifion Yates, labrwr a ddaw yn wreiddiol o ardal y Bala, Robin Hughes, saer maen o Ddyffryn Nantlle, a Gwyn Thomas o Flaenau Ffestiniog yn wreiddiol sy’n byw bellach ym Mangor, ac a ymddeolodd yn ddiweddar o’i swydd fel Bardd Cenedlaethol Cymru. Mae Gwyn wedi cyfansoddi sawl cwpled, yn y Gymraeg a’r Saesneg, fydd i’w gweld ar ffenestri’r adeilad newydd.
Dechreuwyd ar y gwaith ffilmio ym Medi 2006, ac mae’r criw cynhyrchu, ynghyd â’r tîm sy’n adeiladu’r ganolfan newydd, wedi wynebu sawl anhawster ers hynny, yn bennaf oherwydd y tywydd garw.
“Mae’n rhaid i bawb, a phob deunydd adeiladu, gael eu tywys i’r copa ar y trên bach,”esbonia Iestyn. “Felly, yn aml roedden ni’n mynd i fyny ben bore efo’r gweithwyr, ac yn methu dod oddi ar y copa hyd nes chwech yr hwyr, gan fod y tywydd yn rhy arw i ni gerdded yn ddiogel i lawr o’r mynydd.
“Mae wedi bod yn agoriad llygaid i ni fel criw ddilyn y gweithwyr prysur yma wrth iddyn nhw wneud cyfraniad mor bwysig i brosiect Hafod Eryri. Mae wedi bod yn fraint cael bod yn rhan o’r her uchelgeisiol hon, a chael gweld y ganolfan newydd yn ymddangos ar gopa’r Wyddfa.”
© 2010 S4C
O Gymru / Made in Wales