Neidio at y cynnwys

S4C

Yr Ynys

Yr Ynys

Fe fydd S4C yn dilyn ôl-troed y gantores Cerys Matthews i Ynys Ciwba yn y gyntaf o gyfres ddifyr newydd am chwech o ynysoedd mwya' lliwgar y byd.

Ciwba gyda Cerys

"Mae Ynys Ciwba yn wlad sydd wedi swyno fi erioed," meddai Cerys Matthews. "Dyma wlad Castro, Comiwnyddiath, coctêls, cigars a cadillacs. Mae'r hanes mor ddiddorol ac mae ei olion i weld ymhob man. Ond dyw amser ddim yn sefyll yn stond - dim hyd yn oed yn Ciwba."

Gan ymweld â'r brifddinas Havana, arfordir twristaidd poblogaidd Varadero, dinas porthladd Santiago de Cuba ymysg mannau eraill, mae Cerys yn cael darlun o wlad sy'n newid yn gyflym.

Yn naturiol, mewn gwlad sy'n enwog am ei cherddoriaeth, mae'n cwrdd ac yn cyd-berfformio gyda cherddorion yno, Mae'n dysgu mwy am gerddoriaeth draddodiadol y wlad, Son, sy'n gyfuniad o fiwsig Affricanaidd a Sbaenaidd. Gyda cherddorion Son, mae'n perfformio fersiwn newydd o'r gân werin Gymraeg Migildi Magildi. Mae hefyd yn darganfod mwy am y ffenomena gerddorol fawr yn Havana - Reggaeton Latino - cyfuniad o fiwsig reggae, rap a Latino.

Meddai Cerys, "Twristiaeth a masnach ryngwladol sy'n ariannu'r freuddwyd Gomiwnyddol nawr. Ond wrth i'r bobl flasu bywyd y gorllewin, maen nhw'n chwantu am bethau mwy materol. Ond a fyddant yn aros yn driw i'w gweledigaeth - ar yr ynys lle mae pawb yn gyfartal a chytûn?"

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales