Neidio at y cynnwys

S4C

Yr Ynys

Yr Ynys

Yn gorwedd yn nwyrain Môr y Canoldir y mae ynys hardd Cyprus.

Cyprus

Naw mil cilomedr o arfordir godidog. Cannoedd o erwau o dir gwastad ffrwythlon gyda'r mynyddoedd yn llunio cefnlen dramatig i'r cyfan.

Gallai'r wlad fod yn baradwys, ond os ydi Cyprus wedi ei bendithio yn ei hinsawdd, melltith yw ei lleoliad. Yn gorwedd fel carreg sarn rhwng Ewrop, Affrica a'r Dwyrain Canol, mae byddinoedd barus ar hyd yr oesoedd wedi edrych arni fel lle i gychwyn ar gyrch.

Mae'r tir yn goch gan waed y brwydrau a ddigwyddodd yma yn y gorffennol pell ac agos. Ac yn drist iawn mae'r gwrthdaro yn parhau.

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales