Fe fydd y cyn chwaraewr rygbi Gareth Davies yn darganfod mwy am Fiji yn Ynysoedd y De yn yr ail raglen yn gyfres Yr Ynys.
Gellir hawdd deall pam mae Fiji, sy'n gasgliad dros 300 o ynysoedd, yn cael ei disgrifio fel paradwys yn llawn traethau euraidd, tirwedd brydferth a phobl gyfeillgar.
Ond yn y rhaglen mae Gareth Davies hefyd yn gweld cymylau duon yn gymysg a'r heulwen yn Fiji - gyda'r newid yn yr hinsawdd yn peryglu dyfodol yr ynysoedd a'r riffiau cwrel sy'n eu hamgylchynu.
"Pan fues i'n byw yn Sydney am dipyn fel 'Aussie anrhydeddus', roeddwn i'n aml yn hedfan dros Ynysoedd y De ac yn meddwl shwd beth fyddai cael byw yn un o'r ynysoedd 'ma," meddai'r gŵr a fagwyd yn Y Tymbl, Cwm Gwendraeth ac sydd nawr yn Ddeon Chwaraeon ac Addysg Cyfadran Carnegie, Prifysgol Metropolitan Leeds.
"Roedd cael cyfle i wneud y rhaglen yma'n gwireddu breuddwyd i mi. Bydd tirlun Fiji yn aros yn fy nghof am byth ac mae'r hen hanes mor drawiadol. Ond y bobl sy'n gwneud y lle mor arbennig. Dwi erioed wedi cwrdd â phobl mor groesawgar a chyfeillgar - maen nhw'n bobl sy'n haeddu'r prydferthwch hwn a'r sicrwydd y bydd y lle yn cael ei warchod."
Roedd gan Gareth, a fu'n chwarae dros Gaerdydd, Cymru a'r Llewod yn y 1970au a'r '80au, ddiddordeb naturiol yn y wlad oherwydd bod gan y bobl angerdd am rygbi a dawn naturiol wrth chwarae'r gêm.
Ond wrth ddarganfod mwy am eu gêm genedlaethol, fe ddaeth wyneb-yn-wyneb â thensiynau rhwng yr hen gredoau paganaidd a'r grefydd Gristnogol.
Mae'r brifddinas, Suva ar yr ynys fwya', Viti Levu, yn lle deinamig, bywiog ond yn wahanol iawn i'r pentrefi cefn gwlad.
Yn ogystal â chael blas ar yr hynafol mewn un pentref a chwrdd â swynfeddyg yng nghrombil y mynyddoedd, mae'n gweld y datblygiadau gwyddonol diweddara' i adfer y riffiau cwrel er mwyn ceisio amddiffyn y dirwedd a'r cymunedau sy'n dibynnu arni.
© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales