Neidio at y cynnwys

S4C

Yr Ynys

Yr Ynys

Galapagos

Fe fydd gohebydd Wedi 7 Gerallt Pennant yn yr ynysoedd yn Ne America a wnaed yn enwog gan astudiaethau'r naturiaethwr Charles Darwin yn y 19eg ganrif.

Mae Gerallt yn adnabyddus am ei wybodaeth a'i frwdfrydedd am y byd natur ac am gefn gwlad. Yn naturiol felly, roedd cael cyfle i fynd i'r ynysoedd sydd yn enwog am eu cyfoeth o rywogaethau yn gwireddu breuddwyd i Gerallt.

Yr ynys a ysbrydolodd Charles Darwin i ddatblygu ei ddamcaniaethau am Ddethol Naturiol ymhlith anifeiliaid ac am Esblygiad.

"Doeddwn i'n methu credu mod i mor ffodus i gael mynd i'r Galapagos," meddai Gerallt Pennant. "Roeddwn i bob amser wedi meddwl am y lle yma fel un o'r ychydig lefydd ar ôl ar wyneb daear, sydd yn baradwys ddilychwyn."

Natur yn addasu

Fil o gilometrau o afael tir mawr Ecuador, yng nglas y Môr Tawel, mae'r Galapagos yn gynefin i rai o greaduriaid a rhywogaethau prinnaf ein planed.

Stori am natur yn addasu ydy'r stori am oroesi yma. Mae'r stori honno wedi llywio ein dealltwriaeth ni o'r byd o'n cwmpas. Dyma pam bod y Galapagos yn un o Safleoedd Treftadaeth y Byd. Tan yn ddiweddar, dim ond dyrnaid o bobl oedd yn byw ar y Galapagos. Ond erbyn heddiw mae 22,000 wedi cartrefu yma. Mae presenoldeb dyn yn fygythiad i ddyfodol yr ynysoedd garw.

Ond fe fydd Gerallt Pennant yn gofyn - a yw hi'n rhy hwyr i achub y sefyllfa yn y Galapagos neu oes modd i'r bobl a'r bywyd gwyllt, ddysgu byw yma yn gytûn?

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales