Neidio at y cynnwys

S4C

Yr Ynys

Yr Ynys

Rhai milltiroedd o arfordir Dwyrain Affrica, mae casgliad o ynysoedd a riffiau cwrel gydag enw hudol.

Zanzibar

Y newyddiadurwr Dylan Iorwerth sy'n ymweld â'r lle a ddaeth yn enwog am sinnamon, clôfs, turmeric a phupur du.

Diwylliant lliwgar sydd yma heddiw - mae dylanwadau o Arabia ac Affrica yn amlwg ym mherfformiadau Bi Kidude, cantores enwog sydd dros ei chant yn ôl chwedl. Ond mae hanes tywyllach yma hefyd - dyma ganolfan i'r fasnach gaethweision, ac yn 1964, bu gwrthdaro gwaedlyd rhwng yr hiliau.

Bellach, ar ôl bron hanner canrif o drafferthion, mae'r tlodi a'r afiechyd yn waeth nag erioed. Pam felly fod rhai'n credu fod gan Zanzibar nawr gyfle unwaith ac am byth i droi'r rhod?

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales