Mae Gethin John o Borthmadog yn pwyso bron i 30 stôn ac wedi cael ei ddychryn gan broblemau iechyd. Mae'n benderfynol o golli pwyso eithafol a thrawsnewid ei fywyd, a'r person gorau i'w helpu gyflawni hynny ydi ei hen ffrind ysgol, Sion Monty -- corffluniwr a dylanwadwr ffitrwydd. Dros gyfnod o flwyddyn, cawn ddilyn y ddau drwy gyfnodau o lwyddiant ysgubol a rhai heriol dros ben wrth i Geth drio brwydro yn erbyn hen arferion drwg, colli 10 stôn a choncro'r Wyddfa erbyn diwrnod ei benblwydd nesa
Aled Samuel a Mandy Watkins sy'n mynd â ni ar hyd a lled Cymru i ymweld â gwahanol fathau o gartrefi chwaethus a diddorol. Yn y rhaglen hon byddwn ni'n ymweld â hen ysgol yn Llyswyrny sydd bellach yn fwthyn teuluol, tŷ Fictoraidd crand a chyfoes yn Y Bala, a chartref llawn celf ar Ynys Môn.
Byddwn ni'n dilyn ffans Wrecsam wrth i'r tymor newydd gychwyn yn Awst 2023 gyda'r tîm nawr mewn cynghrair uwch, yr English League 2. Mae'r ddinas a'r clwb yn parhau i fod ar ben y byd, ond, d'yw newid ddim wastad yn hawdd, mae na densiynau rhwng y cefnogwyr newydd a'r rhai mwy hir-dymor. Daw Santa yn gynnar i ffans Wrecsam wrth iddynt guro Newport County ddeuddydd cyn y Nadolig.
Bydd saith o Gymry o gefndiroedd gwahanol yn rhannu tŷ ac yn trafod y pynciau sydd yn ei heffeithio nhw. Mi fydd yr iaith Gymraeg yn dod dan sylw wrth i'r grwp gwestiynu os ydy ni'n gwneud digon o ymdrech i ddefnyddio'r Gymraeg. Mi fydda nhw hefyd yn gofyn os ydy Cymru yn rhy woke, ac yn trafod defnydd o ragenwau a'r ddadl a ganslo y gan Delilah.
Trefdraeth a'r Preselau. Dyma dref hardd ger lan y môr wrth droed Carn Ingli a'r Preselau. Bydd Heledd Cynwal yn tynnu rhaff ar y Traeth Mawr, ac yn plethu ŷd, Siôn Tomos Owen yn canu baled enwog y Mochyn Du, Iestyn Jones yn ar drywydd arweinydd Merched Beca, Twm Carnabwth, a Llinos Owen yn coginio Poten Dato gan ddilyn hen rysait traddodiadol.
Mae Sain Ffagan yn ddatgelu mwy o'i thrysorau a'i straeon. Mae'r garddwyr yn dysgu sut i ddefnyddio'r planhigion maen nhw wedi'u tyfu i liwio gwlân. Cawn gip olwg tu fewn i un o adeiladau prysuraf yr Amgueddfa, y siop losin ac mae'r gwaith adeiladu ar du allan Gwesty'r Vulcan yn dod i ben.