S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Ffeithiol

Ar gael nawr

  • Sgwrs Dan y Lloer

    Sgwrs Dan y Lloer

    Ar Sgwrs dan y Lloer heno fe fydd Elin yn sgwrsio tan yr oriau mân hefo'r soprano, Rhian Lois.

  • None

    Y Gic Fawr

    O Ben-y-bont i ben y byd pêl-droed Americanaidd- dyma raglen ddogfen arbennig sy'n dilyn stori anhygoel y cyn chwaraewr rygbi, Evan Williams. Gwelwn Evan yn dechrau ei flwyddyn olaf yn chwarae i goleg Missouri Western State, cyn edrych tuag at ei freuddwyd fawr o gyrraedd yr NFL.

  • None

    Strip

    Mae criw o stripwyr yn anelu at roi Rhyl yn ôl ar y map gyda'u clybiau strip unigryw.

  • Alun, Chris a Kiri yn Seland Newydd

    Alun, Chris a Kiri yn Seland Newydd

    Mae'r cogydd Chris Roberts, y gomediwraig Kiri Pritchard-Mclean a'r cyflwynydd Alun Williams ar daith fythgofiadwy drwy Seland Newydd. Mae'r daith yn cychwyn yn Queenstown, tref yn Ynys y De sydd â chysylltiad annisgwyl â Chymru, cyn profi un o anturiaethau enwocaf y wlad, y Nevis Swing - ond faint fydd yn barod i roi cynnig arni' Yn Dunedin, mae'r tri yn mwynhau sesiwn blasu cwrw yn Speights Brewery, bragdy hynaf ac enwocaf y wlad, cyn rhoi cynnig ar seiclo i fyny Stryd Fwyaf Serth y Byd.

  • Ffermio

    Ffermio

    Mae sioeau amaethyddol yr haf yn rhan annatod o'r bennod hon wrth i Meinir fynd ati i gyflwyno'r rhaglen flaenllaw, Pawb ai Farn, o'r Sioe Frenhinol yn Llanelwedd. Caiff hefyd y cyfle i ymuno a Gary fel Llywyddion yn y sioe fach leol, sef Sioe Llandysul .

  • Teulu'r Castell

    Teulu'r Castell

    Cyfres yn dilyn Marian a Rob Evans o Lansteffan, sydd wedi prynu ty fferm gyda thir, coedwig, a chastell Normanaidd. Yn y bennod olaf ac ar ol dwy flynedd o aros, mi gewn ni weld y briodas gyntaf swyddogol yn y castell. Hefyd, mae Ffion a Catrin yn cael blas ar gadw gwenyn, ac fe gewn ni weld beth yw cynlluniau Marian ar gyfer y dyfodol gyda'r fferm a'u busnesau.

  • Bethesda: Pobol y Chwarel

    Bethesda: Pobol y Chwarel

    Cyfres newydd sy'n mynd â ni i ganol cymuned chwarelyddol Bethesda - cymuned glos Gymreig. Yn y rhaglen olaf cawn gwrdd â Carrie Rimes - dynes busnes sy'n dechrau ar fenter newydd gyffrous yn yr ardal wrth iddi droi'r hen eglwys babyddol yn laethdy i wneud caws. Hefyd cawn weld trigolion Bethesda yn dod ynghyd am gêm o bingo ac yn trafod pwysigrwydd cymuned a'u gobeithion am y dyfodol.

  • Mwy o Ffeithiol

    Mwy o Ffeithiol

    Cliciwch isod i weld mwy o raglenni Ffeithiol S4C

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?