Yn y gyfres yma bydd 3 person o'r un ardal yn camu i'w ceginau i baratoi pryd o fwyd tri chwrs i'w gilydd. Fe fydd pob un o'r tri yn gyfrifol am ddewis un cwrs yr un. Ond nid nhw fydd yn paratoi na choginio y ryseit ma nhw wedi ei ddewis. Fydd na flas ar y bwyd ac ar y sgwrs rownd y bwrdd tybed' Y tro hwn, byddwn yn Nhregaron.
Sean Fletcher sy'n mynd ar daith bersonol i ddarganfod mwy am hanes yr iaith Gymraeg. Bydd yn darganfod sut ddatblygodd y Gymraeg o'r Frythoneg 1500 o flynyddoedd yn ôl, ac yn rhyfeddu at rai o'r esiamplau cynharaf o'r iaith. Yn ystod ei daith bydd yn cwrdd ag unigolion sydd wedi llwyddo i sicrhau bod yr iaith yn cyrraedd llwyfan y byd, yn cynnwys sgwrs arbennig gyda'r pêl-droediwr Ben Davies. Cyfres sy'n dathlu'r Gymraeg, Cymreictod a dros 1500 o flynyddoedd o hanes.
Mae'r cogydd Chris Roberts, y gomediwraig Kiri Pritchard-Mclean a'r cyflwynydd Alun Williams ar daith fythgofiadwy drwy Seland Newydd. Mae'r daith yn cychwyn yn Queenstown, tref yn Ynys y De sydd â chysylltiad annisgwyl â Chymru, cyn profi un o anturiaethau enwocaf y wlad, y Nevis Swing - ond faint fydd yn barod i roi cynnig arni' Yn Dunedin, mae'r tri yn mwynhau sesiwn blasu cwrw yn Speights Brewery, bragdy hynaf ac enwocaf y wlad, cyn rhoi cynnig ar seiclo i fyny Stryd Fwyaf Serth y Byd.