Mae'r cyflwynydd Alun Williams, y cogydd Chris Roberts a'r comediwr Kiri Pritchard McLean yn parhau ar eu hantur fythgofiadwy yn Seland Newydd gan symud o ynys y De i'r Gogledd. Ar ôl ceisio pysgota am koura mewn moroedd garw, bydd y tri yn blasu gwin enwog ardal Marlborough, cyn ymweld â'r unig far Cymreig yn hemisffer y De ac ymarfer rygbi gyda thîm merched lleol.
Yn y gyfres hon bydd y cyn chwaraewr rygbi rhyngwladol Scott Quinnell yn mynd ar daith ar hyd a lled Cymru, yn troi ei law at bob math o weithgareddau a phrofiadau amrywiol. Cyfle i ymarfer ei Gymraeg a dysgu geirfa newydd wrth iddo siarad hefo'r bobl leol ac ambell wyneb cyfarwydd. Ac wrth gwrs bydd personoliaeth heintus Scott yn siwr o sicrhau llond bol o hwyl yn y broses. Yr wythnos hon mae'n rhoi cynnig ar nofio awyr agored yng nghwmni Lisa Jên, yn helpu mewn parc anifeiliaid, ac yn rhoi
Dychwelwn i Sain Ffagan i ddatgelu mwy o'i thrysorau a'i straeon. Mae hi'n ddiwrnod prysuraf y flwyddyn yn yr Amgueddfa wrth i ddegau o filoedd o ymwelwyr gyrraedd i fwynhau'r ŵyl fwyd. Mae atgyfodiad Gwesty'r Vulcan yn parhau wrth i'r to fynd yn ei le ac mae'r ffenestri lliw yn cael ail-fywyd.