Dafydd
- Enw: Dafydd Evans
Yn 27 oed, Dafydd yw cyw bach y nyth ar aelwyd Hendreseifion, Llanwrin ger Machynlleth. Mae ganddo ddiddordeb brwd mewn ffermio, ond yn ddiweddar mae wedi adeiladu busnes peirianyddol ei hun ar y fferm. Erbyn hyn mae'n hynod brysur yn adeiladu trelars ac adeiladau fferm yn ogystal ag ambell i job contractio dymhorol. Ei uchelgais yw bod yn berchen ar ei fferm ei hun rhyw ddiwrnod.
Fel aelod brwd o Glwb Ffermwyr Ifanc Bro Ddyfi, bydd galw ar Dafydd yn rheolaidd i berfformio ar lwyfan, a chyn heddiw mae wedi gorfod gwisgo fyny mewn sawl gwisg digon rhyfedd er mwyn diddori'r gynulleidfa.
Llynedd fe deithiodd i America am wyliau ac yn ystod ei arhosiad fe redodd Farathon Efrog Newydd er mwyn hel arian at achos da cyn gwireddu breuddwyd oes o ymweld â phrif ddinas ryngwladol canu gwlad yn Nashville.
"Dwi'n ffan anferthol o Johny Cash, felly roedd yn brofiad arbennig iawn cael mynd I Nashville", meddai.
"Doedd rhedeg y marathon ddim cweit mor bleserus, ond dwi'n cael y teimlad y bydd hyd yn oed hynny, yn llawer haws na chyrraedd llinell derfyn Fferm Ffactor", ychwanegodd.
Cab cyffesu: Dafydd
Dyma Dafydd yn cyflwyno ei hun. I weld Dafydd yn cymryd rhan yn Fferm Ffactor 2011, pleidleisiwch drwy wasgu 'Like / Hoffi' iddo ar dudalen Fferm Ffactor ar Facebook.