Debs
- Enw: Debs Phillips
Mae Debs, sy'n fam i ddau o blant - Shona, 10, a Llyr, 4 - yn falch iawn o fod yn cystadlu yn Fferm Ffactor, er nad oedd yn credu fod ei phartner Geraint wedi ei henwebu yn y lle cyntaf!
Magwyd Debs ym mhentref Llandudoch ond symudodd y teulu allan o'r pentref, a dyna pryd cychwynnodd gymryd diddordeb mewn ffermio, trwy helpu allan ar y ffermydd cyfagos.
Wedi gadael yr ysgol aeth i Goleg Amaethyddol Felin Fach ac yna i Goleg Gelli Aur cyn dilyn cwrs Diploma mewn amaethyddiaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth. Yn ystod ei blwyddyn allan bu'n godro buches o 500 ar fferm odro yn ardal Rhydychen.
Dros y blynyddoedd mae hi wedi gweithio ar ffermydd lleol yn ogystal â chwarae rhan allweddol ar y fferm deuluol yn Fron Las Isaf ger Crymych a rhai blynyddoedd yn ôl sefydlodd fusnes clipio cŵn o'r enw Paws and Claws o'r cartref. Pan nad yw Debs allan ar y fferm yn godro, rholio neu'n llyfnu'r tir, un o'i phrif ddiddordebau yw marchogaeth ceffylau ac mae hi wrth ei bodd yn ymgymryd mewn gweithgareddau traws gwlad a hela.
Dyw cystadlu yn erbyn y dynion ddim yn poeni llawer arni. I ddweud y gwir mae'n ei weld fel tipyn o sialens ac mae'n benderfynol o ddangos "fod y merched yn medru llwyddo llawn cystal â'r dynion".
Cab cyffesu: Debs
Dyma Debs yn cyflwyno ei hun. I weld Debs yn cymryd rhan yn Fferm Ffactor 2011, pleidleisiwch drwy wasgu 'Like / Hoffi' iddi ar dudalen Fferm Ffactor ar Facebook.