Geraint
- Enw: Geraint Thomas
All Geraint Thomas ddim gwrthod sialens! Ar ôl gwylio dwy gyfres o Fferm Ffactor, doedd dim amdani i'r ffermwr godro 36 oed ond rhoi cais i mewn i gystadlu!
"Odd rhywbeth tu mewn i fi yn gwneud i mi fynd amdani," meddai cefnogwr brwd y Scarlets o Langennech ger Llanelli.
"Wy'n fachan cystadleuol iawn, ac yn hoffi sialens - wy ddim yn credu mewn cymryd pethe'n rhy seriws, ond er hynny, wy'n gwybod sut i fod o ddifri pan fo rhaid," meddai.
Dim ond ffermio oedd Geraint eisiau gwneud er pan oedd yn fachgen ifanc iawn. Pan oedd fod i adolygu ar gyfer ei arholiadau yn Ysgol Gyfun y Strade, roedd ei fam yn gorfod ei berswadio i ddod oddi ar y tractor ac i'r tŷ at ei lyfrau.
"Wnes i ddim cymryd llawer o ddiddordeb yn y gwaith yn yr ysgol, ond falle bydd rhaid i mi astudio cryn dipyn cyn wynebu cwestiynau'r Athro Wynne yng nghadair Fferm Ffactor!," meddai.
Mae Geraint yn briod â Sheryl ac mae ganddynt fab dwy oed, Gethin. Maent yn ffermio gyda'i reini ar fferm odro Tyreglwys Llangennech ger Llanelli.
"Mae Fferm Ffactor wedi dangos i'r gwylwyr cymaint o amrywiaeth o sgiliau sydd eu hangen i fod yn ffermwr da y dyddiau hyn - wy ond yn gobeithio y gallaf i wneud argraff dda," meddai.
Cab cyffesu: Geraint
Dyma Geraint yn cyflwyno ei hun. I weld Geraint yn cymryd rhan yn Fferm Ffactor 2011, pleidleisiwch drwy wasgu 'Like / Hoffi' iddo ar dudalen Fferm Ffactor ar Facebook.