Neidio at y cynnwys

S4C

Fferm Ffactor

Iestyn

Iestyn
  • Enw: Iestyn Tegid Davies

Mae Iestyn, 35, yn edrych ymlaen yn arbennig at gystadlu yn Fferm Ffactor eleni, er bod ei wraig Marian yn un o'r cystadleuwyr fydd yn ei erbyn!

Gyda busnes contractio prysur i'w reoli, mae'n cyfaddef ei fod yn gweithio trwy'r amser, ac mae ei feddwl o hyd ar ffyrdd gwahanol o ehangu'r busnes a gwneud arian. Fe ddaeth y cyfle iddo fo a Marian gymryd drosodd y fferm deuluol yn y Goppa, Trawsfynydd yn 2003, ac fe neidiodd ar y cyfle o gael symud ei deulu i'r ffermdy ar lan Llyn Trawsfynydd.

Pan gaiff gyfle, mae wrth ei fodd yn treulio amser gyda'i wraig a'r plant ar y fferm a phob blwyddyn mae'n sicrhau eu bod fel teulu yn cymryd gwyliau i wneud yn siŵr ei fod yn cael hoe o amserlen brysur y gwaith.

Er ei fod yn hyderus ei fod a Marian yn gweithio yn dda fel tîm ar y fferm adref, nid yw'n siŵr os daw'r cyfle iddynt ddisgleirio ar y cyd yn y gystadleuaeth.

"Rwy'n cael y teimlad efallai na fydd trefnwyr y rhaglen yn ei gwneud yn hawdd i ni gydweithio ar y rhaglen," meddai.

"Ond mi fydd cystadlu yn Fferm Ffactor yn gyfle unigryw, ac os byddai'n llwyddo i ddod a'r teitl nôl i Ogledd Cymru, mi fyddai'n berson bodlon iawn," ychwanegodd.

Cab cyffesu: Iestyn

Dyma Iestyn yn cyflwyno ei hun. I weld Iestyn yn cymryd rhan yn Fferm Ffactor 2011, pleidleisiwch drwy wasgu 'Like / Hoffi' iddo ar dudalen Fferm Ffactor ar Facebook.

Rheolau Pleidleisio Fferm Ffactor 2011

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales