Neidio at y cynnwys

S4C

Fferm Ffactor

Malcolm

Malcolm
  • Enw: Malcolm Davies

Ffermwr godro yw Malcolm Davies, 37, o fferm Nyffryn, Dinas, ger Pwllheli. Mae wrth ei fodd yn gosod sialens nerwydd iddo'i hun o bryd i'w gilydd, ac yn y gorffennol mae wedi llwyddo i gyflawni y dreiathlon lleol ym Mhwllheli yn ogystal â chwblhau Marathon Llundain ac Efrog Newydd.

Ond eleni sialens go wahanol sydd ganddo i'w chyflawni, a hynny fydd ennill Fferm Ffactor 2011.

Mae Malcolm yn byw gyda'i wraig Carys a'u mab tair oed Iori ar y fferm ym Mhen Llyn. Mae'n rhedeg y busnes ffermio ar y cyd gyda'i ddau frawd ac mae'r partneriaid yn anelu at gynyddu maint y fuches o 200 i 300 yn ystod y flwyddyn sy'n dod.

Er bod Malcolm wrth ei fodd gyda'i waith, mae'n credu ei bod yn bwysig peidio bod yn rhy gaeth i'r fferm.

"Rwy'n gwbl ymroddedig i 'ngwaith," meddai "ond dwi'n credu ei bod yn bwysig cael bywyd tu allan i ffermio."

Fel yr unig ymgeisydd o Lŷn, mae Malcolm yn gobeithio y bydd yn cael cefnogaeth y gymuned leol er mwyn sicrhau ei le yn y deg terfynol.

"Mae pawb yn gwybod fod y ffermwyr gorau ym Mhen Llŷn - dwi'n gobeithio y gallai fod o gwmpas yn ddigon hir i brofi hynny," meddai.

Cab cyffesu: Malcolm

Dyma Malcolm yn cyflwyno ei hun. I weld Malcolm yn cymryd rhan yn Fferm Ffactor 2011, pleidleisiwch drwy wasgu 'Like / Hoffi' iddo ar dudalen Fferm Ffactor ar Facebook.

Rheolau Pleidleisio Fferm Ffactor 2011

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales