Neidio at y cynnwys

S4C

Fferm Ffactor

Marian

Marian
  • Enw: Marian Davies

Un o Lanuwchllyn yw Marian yn wreiddiol. Fe'i magwyd ar fferm fynydd ynn Nghwm Cynllwyd ac er pan oedd yn ifanc iawn, roedd a'i bryd ar fod yn ffermwr. Ar ôl gadael yr ysgol astudiodd amaethyddiaeth yng Ngholeg Glynllifon cyn symud i ffwrdd i ardal Wrecsam i weithio ar fferm odro.

Mewn dawns CFFI y cyfarfu a'i gŵr Iestyn - un arall o gystadleuwyr Fferm Ffactor 2011! Maent bellach yn byw ar fferm Y Goppa, ar lannau Llyn Trawsfynydd, ac mae ganddynt dri o blant, Seimon, 15, Catrin, 14, a Daniel sy'n dair.

Marian sy'n edrych ar ôl y fferm o ddydd i ddydd, ac mae'r stoc yn cynnwys buches o wartheg sugno a diadell o ddefaid mynydd Cymreig. Does un dim yn well gan Marian na chael bugeilio yn y dull traddodiadol, a hynny ar gefn ceffyl yn hytrach na'r beiciau fferm modern.

"Dwi wedi bod wrth fy modd yn marchogaeth erioed, a'r dyddiau hyn mi fyddai yn trio cyfuno fy niddordeb efo'r gwaith trwy gael fynd i fyny'r mynydd i weld y defaid ar gefn ceffyl," meddai.

Mae'n gobeithio y bydd hi a'i gŵr yn medru bod o gymorth i'w gilydd yn ystod y gystadleuaeth, trwy gynnig cymorth a chefnogaeth.

"Os gallwn ni helpu'n gilydd mi fyddwn yn siwr o wneud, ond os byddwn ein dau yn dal i fewn yn y gystadleuaeth pan fydd pethau'n poethi yn y diwedd, mae'n debyg mai 'pawb drosto'i hun' fydd hi!" meddai.

Cab cyffesu: Marian

Dyma Marian yn cyflwyno ei hun. I weld Marian yn cymryd rhan yn Fferm Ffactor 2011, pleidleisiwch drwy wasgu 'Like / Hoffi' iddi ar dudalen Fferm Ffactor ar Facebook.

Rheolau Pleidleisio Fferm Ffactor 2011

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales