Morfudd
- Wedi gadael Fferm Ffactor yn rhaglen 5
- Enw: Morfudd Lewis
- Oed: 20
- Cartref: Tŷ Nant, Tal-y-bont, Ceredigion
Mae Morfudd yn ffermio bîff a defaid ond mae hefyd wedi troi ei llaw at odro drwy weithio ar ffermydd eraill. Treuliodd gyfnod yn byw yn Seland Newydd ac mae'n cyfaddef mai dyma'r profiad gwaith gorau iddi gael erioed.
"Rwy bach yn gynhyrfus am beth fydd y tasgau. Does neb wedi gadael yr union fanylion allan o'r cwd hyd yma felly pwy a ŵyr be' ddaw."
