Neidio at y cynnwys

S4C

Fferm Ffactor

Rheinallt

Rheinallt
  • Enw: Rheinallt Davies

Mae Rheinallt Davies wedi cyrraedd y brig mewn un camp yn barod, a hynny gyda'i sgiliau beic modur dwy olwyn yng nghamp Beicio Modur Enduro Prydeinig.

Rwan mae'r ffermwr ifanc 21 oed o Lanwrin ger Machynlleth yn gobeithio bydd yn goroesi rownd ar ôl rownd o gystadlu brwd ar Fferm Ffactor eleni.

Mae Rheinallt wedi ei fagu ar fferm organic defaid a bîff yn Esgairwian, Llanwrin. Penderfynodd ddilyn gradd mewn Amaethyddiaeth a Marchnata ym Mhrifysgol Aberystwyth a'i obaith yw dilyn gyrfa mewn marchnata yn y man.

"Rwy'n gobeithio byddai'n mwynhau cymryd rhan yn Fferm Ffactor ac y byddai'n cael blas ar brofiadau a sialensau newydd," meddai.

"Mae'n mynd i fod yn dipyn o sialens, ond rwy'n barod am yr her. Alla'i weld fy hun yn dreifio rownd yn yr Isuzu newydd yn barod!"

Cab cyffesu: Rheinallt

Dyma Rheinallt yn cyflwyno ei hun. I weld Rheinallt yn cymryd rhan yn Fferm Ffactor 2011, pleidleisiwch drwy wasgu 'Like / Hoffi' iddo ar dudalen Fferm Ffactor ar Facebook.

Rheolau Pleidleisio Fferm Ffactor 2011

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales