Neidio at y cynnwys

S4C

Fferm Ffactor

Rhodri

Rhodri
  • Enw: Rhodri Evans

Dros gyfnod o 18 mlynedd mae Rhodri Evans, 35, o Parc, Y Bala wedi ymgymryd â rhestr hir o wahanol swyddi, o weithio ar safle adeiladu i yrru lori a hyd yn oed codi pebyll. Ond pan ymddeolodd ei dad dair blynedd yn ôl, roedd Rhodri wrth ei fodd pan gafodd y cyfle i ddychwelyd i'r cartref teuluol yn Nhyddyn Du, Y Parc.

Yn berfformiwr brwd, mae Rhodri hefyd wedi cymryd at gyfarwyddo cynyrchiadau gyda "Cymdeithas y Parc" - unwaith bu'n rhaid iddo gymryd rhan mewn perfformiad o'r 'Full Monty' er mwyn codi arian i'r clwb rygbi lleol!

Erbyn hyn mae'r dyddiau rygbi wedi dod i ben ac mae Rhodri wrth ei fodd yn treulio amser adref ar y fferm gyda'i wraig a'i ferch 5 mlwydd oed, Catrin.

"Dwi'n gobeithio byddai'n falch mod i wedi rhoi tro ar gystadlu yn Fferm Ffactor," meddai Rhodri, er ei fod yn cyfaddef ei fod yn eithaf nerfus.

"Dwi ddim eisiau ymddangos i fod yn rhy hyderus - pob tro dwi'n gwneud hynny, mae 'na rywbeth siŵr o fynd o'i le!, meddai. Y llynedd, fe ddaeth ei frawd yng nghyfraith, Iwan Price yn ail yn y gystadleuaeth.

"Dwi jest isho gwneud yn well na Iwan!" meddai.

Cab cyffesu: Rhodri

Dyma Rhodri yn cyflwyno ei hun. I weld Rhodri yn cymryd rhan yn Fferm Ffactor 2011, pleidleisiwch drwy wasgu 'Like / Hoffi' iddo ar dudalen Fferm Ffactor ar Facebook.

Rheolau Pleidleisio Fferm Ffactor 2011

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales