Neidio at y cynnwys

S4C

Fferm Ffactor

Sam

Sam
  • Enw: Sam Carey

Un o'r ieuengaf i gystadlu yn Fferm Ffactor eleni fydd Sam Carey, 22, o Ogledd Sir Benfro. Mae Sam yn graddio o Goleg Amaethyddol Harper Adams eleni, ar ôl ennill ysgoloriaeth gan Gymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru i gwblhau ei radd.

Mae teulu Sam yn ffermio buches odro o 500 o wartheg pur a buches bîff yn Rhoshill , heb fod yn bell o Aberteifi.

"Pan adewais yr ysgol fe wedodd fy nhad wrtha'i am ddod adre i weithio am flwyddyn i weld sut byddwn yn mwynhau, ac wedyn mynd i'r coleg i astudio amaethyddiaeth os mai dyna oeddwn yn ddewis ei wneud," meddai.

"Dyna wnes i, a dwi heb edrych yn ôl byth ers hynny. Bues yn lwcus i gael y cyfle i wneud profiad gwaith gyda Waitrose, a chael y cyfle i brofi sawl gwahanol cymal yn y gadwyn gyflenwi," esboniodd.

Arferai Sam focsio yn rheolaidd, a rhai blynyddoedd yn ôl fe sicrhaodd ei le ym Mhencampwriaeth Bocsio Cymru. Nawr fod ei astudiaethau yn dod i ben, mae'n gobeithio ail afael yn y menyg bocsio unwaith eto.

Er ei fod yn un o'r ieuengaf yn y gystadleuaeth, mae'n credu fod ganddo siawns dda o lwyddo ac mae'n gobeithio dod a rhywfaint o "X Factor i'r Fferm Ffactor!"

Cab cyffesu: Sam

Dyma Sam yn cyflwyno ei hun. I weld Sam yn cymryd rhan yn Fferm Ffactor 2011, pleidleisiwch drwy wasgu 'Like / Hoffi' iddo ar dudalen Fferm Ffactor ar Facebook.

Rheolau Pleidleisio Fferm Ffactor 2011

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales