Y Ffeinal
Aled yw enillydd Fferm Ffactor 2009!
Y ffermwr gwartheg o Aberteifi sydd wedi cipio'r teitl ac ennill y wobr arbennig, sef cerbyd 4x4 Isuzu newydd sbon.
Fferm Ffactor 2010
Ai chi yw Ffermwr Gorau Cymru 2010?
Mae S4C yn chwilio am ffermwyr brwdfrydig i gystadlu yn yr ail gyfres o Fferm Ffactor.
Rydyn ni'n chwilio am ddynion a merched sy'n 18 oed a throsodd sydd yn ffermwyr penigamp.
Bydd y ffermwyr yn cystadlu mewn cyfres o dasgau ffermio a heriau amrywiol fydd yn profi eu gallu tu hwnt i ffiniau'r fferm.
Os hoffech gystadlu, llenwch y ffurflen gais neu cysylltwch â thîm Fferm Ffactor ar (01286) 685300.
Y Gyfres
Cyfres gyffrous i ddod o hyd i ffermwr gorau Cymru!
Bydd 10 ffermwyr yn mynd benben â'i gilydd mewn tasgau fydd yn profi eu sgiliau ymarferol ar y fferm yn ogystal â'u gwybodaeth am y diwydiant amaethyddol.
Pob wythnos bydd un o'r ffermwyr yn gorfod mynd adre, gan ddryllio'r freuddwyd o ennill y wobr arbennig, sef cerbyd 4x4 Isuzu Rodeo Denver Max newydd sbon.
Erbyn diwedd y Fferm Ffactor dim ond un ffermwr fydd ar ôl, a hwnnw neu honno fydd yn cael gyrru i ffwrdd mewn steil!
Y Beirniaid
Dai Jones Llanilar a'r Athro Wynne Jones, Prifathro Coleg Amaethyddol Harper Adams yn Swydd Amwythig, fydd â'r dasg anodd o benderfynu pwy sy'n aros a phwy sy'n mynd ar y Fferm Ffactor. Y cyflwynydd a'r wraig fferm, Daloni Metcalfe, fydd yn cadw trefn rhwng y ddau!
"Mi rydw i'n edrych ymlaen yn fawr at feirniadu'r gyfres gyffrous yma - mi fydd yn gyfle i'r gwylwyr weld pa mor amrywiol a heriol yw gwaith y ffermwr heddiw, a chymaint mae'r diwydiant wedi datblygu dros y blynyddoedd."
Dai Jones
"Yn Fferm Ffactor bydda i'n chwilio am bobl hefo'r ehangder meddwl sy'n fodlon dysgu a symud yn eu blaenau o hyd. Mae'n rhaid wrth rinweddau personol yn gymaint â gallu technegol ac ymarferol i fanteisio ar gyfleoedd."
Yr Athro Wynne Jones