Neidio at y cynnwys

S4C

Fferm Ffactor

Rheolau Pleidleisio Fferm Ffactor 2011

Mae'r rheolau canlynol yn berthnasol i'r rheini sy'n dymuno cofrestru eu pleidlais yn gysylltiedig â'r rhaglen Fferm Ffactor a gynhyrchir gan Cwmni Da ("y Cwmni").

  1. Rhaid ichi gofrestru eich pleidlais rhwng 12:00 ar 21 Mehefin a 12:00 ar 19 Gorffennaf 2011 ("y Cyfnod Pleidleisio"). Ni fydd pleidleisiau a dderbynnir y tu allan i'r Cyfnod Pleidleisio yma yn cael eu cyfri.
  2. Gallwch gofrestru eich pleidlais gyda'r Cwmni drwy law, gan ddefnyddio'r post neu arlein wrth ddefnyddio'r llinellau cyswllt yma yn unig:
    1. Post/drwy law: Anfon pleidlais unigol mewn llythyr at Fferm Ffactor, Cwmni Da, Cae Llenor, Caernarfon, Gwynedd LL55 2HH neu drwy fwrw pleidlais unigol ym Mhafiliwn S4C yn y Sioe Frenhinol ar ddydd Llun 18 Gorffennaf a hyd at 12:00 ar ddydd Mawrth 19 Gorffennaf 2011.
    2. Arlein: Trwy ymweld â gwefan Fferm Ffactor ar www.s4c.co.uk/ffermffactor neu fynd i wefan Facebook ac ymweld â grŵp swyddogol Fferm Ffactor. (Dylid nodi bod angen bod yn 13 oed i ddefnyddio Facebook. Darllenwch Telerau Facebook a Pholisi Preifatrwydd Facebook am wybodaeth llawn.)
  3. Nid yw S4C na'r Cwmni yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb dros unrhyw bleidlais sy'n mynd ar goll yn y post neu sy'n methu cyrraedd y Cwmni drwy'r llinellau cyswllt yn ystod y Cyfnod Pleidleisio. Eich cyfrifoldeb chi yn unig yw sicrhau bod eich pleidlais yn cael ei gofrestru'n ystod y Cyfnod Pleidleisio.
  4. Ni chyfyngir nifer y pleidleisiau y gall pob person ei wneud.
  5. Ni fydd y Cwmni nac S4C yn ad-dalu cost pleidleisio i unrhyw berson o dan unrhyw amodau os cofrestrir pleidlais anghywir.
  6. Mae'r Cwmni ac S4C yn cadw'r hawl i newid, canslo neu ohirio'r pleidleisio ar unrhyw adeg.
  7. Mae'r Cwmni ac S4C yn cadw'r hawl i anghymwyso pleidleisiau os oes ganddynt unrhyw sail resymol i gredu bod pleidleisio twyllodrus wedi digwydd neu fod rhywun neu rywrai wedi ceisio rigio'r bleidlais.
  8. Mae'r Cwmni ac S4C yn gwahardd unrhyw atebolrwydd i'r graddau llawn a ganiateir gan y gyfraith am unrhyw golled, difrod, anaf neu siomedigaeth a ddioddefir gan unrhyw berson sydd yn cofrestru eu pleidlais.
  9. Ni fydd y cwmni cynhyrchu yn gwneud unrhyw ddefnydd pellach o fanylion personol y sawl sydd yn pleidleisio.
  10. Mae'r rheolau hyn yn rhwym i gyfreithiau Cymru a Lloegr.
  11. Trefnir y pleidleisio gan Cwmni Da, Cae Llenor, Caernarfon, Gwynedd LL55 2HH, post@cwmnida.tv. Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau neu gwynion am y bleidlais hon at yr uchod.

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales