Neidio at y cynnwys

S4C

Fferm Ffactor

Telerau ac Amodau Cystadlu Fferm Ffactor

  1. Mae'r amodau a thelerau yma yn berthnasol i'ch cais i gymryd rhan yn y rhaglen deledu o'r enw "Fferm Ffactor" ("Y Rhaglen") y mae Cwmni Da ("y Cwmni" neu "ni") yn cynhyrchu ar gyfer S4C.
  2. Bydd ymgeiswyr yn cael eu dewis ar ddisgresiwn y Cwmni yn unig. Bydd penderfyniad y Cwmni yn derfynol.

Rheolau Cystadlu

  1. Rhaid i chi fod yn 18 mlwydd oed neu'n hyn.
  2. Rhaid i chi fod â'r hawl i weithio yn gyfreithlon yn y Deyrnas Gyfunol (DG).
  3. Rhaid eich bod yn berchen ar /ddeilydd ar fferm neu'n gweithio ar fferm yn llawn amser neu'n rhan amser.
  4. Nid yw'r gystadleuaeth yn agored i staff S4C, y Cwmni na'u teuluoedd agos.
  5. Gallwch wneud cais i fod yn gystadleuydd drwy lenwi'r ffurflen gystadlu sydd ar y wefan hon neu drwy ofyn am ffurflen gystadlu drwy ffonio, e-bostio neu ysgrifennu at y Cwmni sef Cwmni Da, Cae Llenor, Lon Parc, Caernarfon, Gwynedd, LL55 2HH (01286) 685300. E-bost: fferm.ffactor@cwmnida.tv (Nodwch 'Fferm Ffactor' ar yr amlen neu yn llinell destun yr e-bost). Gallwch hefyd ofyn am ffurflen gais drwy gysylltu â Gwifren Gwylwyr S4C: 0870 600 4141.
  6. Rhaid dychwelyd y ffurflen gystadlu i Fferm Ffactor, Cwmni Da, Cae Llenor, Lon Parc, Caernarfon, Gwynedd, LL55 2HH erbyn 31 Mai 2012.
  7. Dim ond un enillydd posib fydd yna. Ni ellir cyfnewid neu drosglwyddo'r wobr, ac ni fydd modd hawlio swm ariannol yn gyfnewid amdani.
  8. Dim ond un cais y gall pob person ei wneud.
  9. Caiff y ffurflenni cystadlu eu hasesu gan y Cwmni a chaiff ymgeiswyr addas a ddewisir gan y Cwmni yn ei ddisgresiwn llwyr eu gwahodd i gyfweliad mewn lleoliad ac ar ddyddiad o ddewis y Cwmni.
  10. Bydd deg o'r ymgeiswyr yn cystadlu mewn cyfres o dasgau ffermio â thasgau amrywiol a fydd yn profi eu doniau tu hwnt i ffiniau'r fferm.
  11. Os dewisir chi i gymryd rhan yn y Rhaglen rhaid i chi fod ar gael ar gyfer ffilmio yn unol ag amserlen ffilmio'r Cwmni. Os ydych yn gyflogedig ac os ydyw'n bosib y bydd y ffilmio yn torri ar draws eich oriau gweithio, eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau caniatâd eich cyflogwr i gymryd rhan yn y Rhaglen yn unol â gofynion ffilmio'r Cwmni. Os nad ydych ar gael yn ystod y cyfnod ffilmio yma mae gan y Cwmni'r hawl i beidio eich cynnwys yn y Rhaglen.
  12. Ni fydd y Cwmni yn gyfrifol pe na fyddai modd parhau â'r Rhaglen am resymau yn rhannol neu'n hollol tu hwnt i reolaeth y Cwmni, neu os bydd problemau technegol neu amgylchiadau tu hwnt i reolaeth y Cwmni yn amharu ar y gystadleuaeth neu'r Rhaglen mewn unrhyw ffordd.

Canllawiau Cyffredinol

  1. Dylech sylweddoli y gallai'r wybodaeth yr ydych yn ei rhoi ar y ffurflen gystadlu (ac unrhyw wybodaeth arall yr ydych yn ei rhannu gyda'r Cwmni) gael ei ddefnyddio ar y Rhaglen os cewch eich dewis. Darllenwch y polisi amddifyn data isod.
  2. Rydych yn cytuno i fynychu unrhyw gyfweliadau, glyweliadau, gystadleuthau, ddigwyddiadau neu ddigwyddiadau hyrwyddo sydd yn gysylltiedig â'r Rhaglen os ydy'r Cwmni yn dymuno hynny, ar unrhyw ddyddiad y bydd y Cwmni wedi eich hysbysu ohono.
  3. Rydych yn cytuno i gadw at rheolau, rheoleiddiadau, amodau a thelerau, y Rhaglen ("Y Rheolau") a all gael eu hamrywio o bryd i'w gilydd gan y Cwmni ac ymhellach, rydych yn cytuno bod penderfyniad y Cwmni yn derfynol ac yn ymrhwymedig.
  4. Rydych yn cytuno i ymgymryd ag asesiad meddygol a/neu ag asesiad seicolegol, wedi ei ddarparu gan ymarferydd trwyddedig, os ydy'r Cwmni yn dymuno hynny.
  5. Rydych yn gwarantu yma eich bod wedi llenwi'r ffurflen gystadlu yn gywir ac yn eirwir ac yn cydnabod eich bod yn cytuno y gall y Cwmni, yn ôl ei ddisgresiwn, eich anghymwyso o unrhyw gyfweliad, glyweliad, gystadleuaeth, ddigwyddiad neu'r Rhaglen ar unrhyw bryd os ydych wedi rhannu gwybodaeth celwyddog, anghywir, neu fanylion camarweiniol a/neu os ydych heb gadw at y Rheolau neu os ydych fel arall yn torri unrhyw dermau sy'n gysylltiedig â'r ffurflen gystadlu.
  6. Rydych yn cytuno ac yn ymgymryd i gadw'r holl wybodaeth a rennir gyda chi ynglŷn â'r Rhaglen a'r Cwmni yn gyfrinachol ac i beidio ag ymwneud â'r wasg, â chyhoeddusrwydd neu drafodaethau eraill gydag unrhyw drydydd parti mewn cyswllt â'ch cais i fod yn ymgeisydd ar y Rhaglen neu mewn cyswllt ag unrhyw agwedd arall ar y Rhaglen. Ni fydd hawl gennych chwaith i ymgymryd ag unrhyw gytundeb masnachol neu gytundeb arall gydag unrhyw drydydd parti mewn cyswllt â'ch cais i fod yn ymgeisydd ar y Rhaglen neu'ch ymddangosiad ar y Rhaglen.
  7. Os cewch eich gwahodd i glyweliad a/neu gyfweliad yr ydych yn datgan yma eich bod yn cydsynio i bob caniatad sydd eu hangen ar y Cwmni i ffilmio a recordio y clyweliad a/neu gyfweliad ac i ddefnyddio recordiad o'ch delwedd a/neu eich llais mewn cyswllt â'r Rhaglen a/neu hawliau ategol yn y Rhaglen ac i ddefnyddio y ddelwedd/llais ym mhob cyfrwng drwy'r byd am byth heb orfod gwneud taliad i chi.
  8. Os cewch eich dewis i gymryd rhan yn y Rhaglen rydych yn cytuno, ac yn ymgymryd â chytuno, i arwyddo cytundebau eraill gyda'r Cwmni gan gynnwys, heb gyfyngiad, Cytundeb Cyfrinachedd a Chytundeb Ymgeisydd ac yr ydych yn cytuno i gadw at yr amodau sydd ynddynt.
  9. Rydym yn croesawi ceisiadau oddi-wrth bobl anabl ac mi fyddwn ni yn ymdrechu i gyfarfod ag unrhwy anghenion mynediad ar gyfer ymgeiswyr anabl.
  10. Rydych yn gwarantu eich bod yn 18 mlwydd oed neu'n hyn ac eich bod yn cael gweithio yn y DG yn gyfreithlon. Os yw'r Cwmni yn gofyn i chi i wneud hynny rydych yn cytuno i rhoi tystiolaeth ddogfenol i'r Cwmni sydd yn cadarnhau eich oed a'ch hawl i weithio yn y DG.
  11. Ni fydd y Cwmni yn gyfrifol am unrhyw gamgymeriad, diffyg, amhariad, dileu, nam neu oedi mewn unrhyw ddull cyfathrebu a ddefnyddir gennych neu ar gyfer ceisiadau nad ydynt yn cyrraedd cyn y Dyddiad Cau. Ni ellir derbyn bod prawf postio, prawf galwad ffôn neu brawf anfon neges destun neu neges e-bost yn cyfateb â phrawf bod eich ffurflen gystadlu wedi cyrraedd.
  12. Mae'r Cwmni yn cadw'r hawl i gyfnewid y wobr neu unrhyw ran ohoni am wobr o'r un gwerth ariannol, neu o werth ariannol uwch, a bydd penderfyniad y Cwmni yn hyn o beth yn derfynol.
  13. Mae'r Cwmni yn cadw'r hawl i ganslo, addasu neu ddiwygio'r gystadleuaeth ar unrhyw adeg o ganlyniad i ddigwyddiadau y tu hwnt i'w rheolaeth.
  14. Mae'r Cwmni yn gwahardd unrhyw atebolrwydd i'r graddau llawn a ganiateir gan y gyfraith am unrhyw golled, difrod, anaf neu siomedigaeth a ddioddefir gennych, sy'n codi o'r ffaith eich bod wedi ymgeisio i gymryd rhan yn y Rhaglen a/neu eich bod wedi cymryd rhan yn y Rhaglen, neu sy'n digwydd ichi o ganlyniad i'r ffaith eich bod wedi derbyn y wobr.
  15. Mae'r gystadleuaeth yn rhwym i gyfreithiau Cymru a Lloegr.
  16. Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau neu gwynion am y Rhaglen at Cwmni Da, Cae Llenor, Lon Parc, Caernarfon, Gwynedd, LL55 2HH (01286) 685300. E-bost: fferm.ffactor@cwmnida.tv.

Datganiad prosesu teg amddiffyn data

  1. Rydym yn cymryd eich preifatrwydd o ddifrif. Bydd yr wybodaeth yr ydych yn ei rannu amdanoch chi eich hunan fel rhan o wneud cais yn cael ei defnyddio gan y Cwmni i asesi os cewch eich dewis ar gyfer y Rhaglen neu beidio. Os fyddwch yn llwyddiannus gall yr wybodaeth hon gael ei defnyddio mewn cyswllt â chynhyrchu a hyrwyddo'r Rhaglen.
  2. Gallwn ni ddefnyddio'r wybodaeth yr ydych chi'n ei rhoi i wirio eich oedran ac i wneud yn siwr mai chi yw'r person yr ydych yn honni i fod ac i wneud ymholiadau cefndirol gyda asiantaethau gweithredu'r gyfraith a gydag asiantaethau'r llywodraeth. Mae'n bosib y byddwn yn rhannu eich gwybodaeth gyda darlledwr y Rhaglen fel rhan o'r broses o ddewis ac mewn cyswllt â chynhyrchu a hyrwyddo'r Rhaglen.
  3. Drwy gyflwyno'r ffurflen gystadlu rydych yn cydsynio i unrhyw wybodaeth bersonol sensitif (er enghraifft gwybodaeth sy'n berthnasol i'ch iechyd neu wybodaeth am eich dedfrydau troseddol) i gael ei ddefnyddio at bwrpas asesi eich addasrwydd ar gyfer y Rhaglen ac os yn llwyddiannus ar gyfer cynhyrchu'r Rhaglen.
  4. Os oes gennych unrhyw gwestiynau mewn cyswllt â'n defnydd ni o'ch gwybodaeth bersonol neu pe baech yn hoffi newid eich manylion oherwydd bod eich manylion wedi newid, yna os gwelwch yn dda cysylltwch â Thîm Cynhyrchu Cwmni Da, Cae Llenor, Lon Parc, Caernarfon, Gwynedd, LL55 2HH (01286) 685300 neu anfonwch e-bost at fferm.ffactor@cwmnida.tv Dim ond at ddibenion gweinyddu'r gystadleuaeth a'r Rhaglen y bydd y Cwmni yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol, ac ni fydd y Cwmni yn defnyddio data o'r fath at unrhyw ddibenion eraill. Bydd y Cwmni yn dinistrio'r holl ddata personol y mae'n meddu arno, ac a gafodd fel rhan o'r ceisiadau ar gyfer y Rhaglen, ar ôl i'r Rhaglen ddod i ben. Prosesir data personol yn unol â darpariaethau Deddf Diogelu Data 1998 ac ni fydd yn cael ei rannu gydag unrhyw drydydd parti heb sicrhau eich caniatâd ymlaen llaw.

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales