Aeron
- Wedi gadael yn wythnos 4
- Enw: Aeron Pughe
- Oed: 29
- Cartref: Machynlleth
Daw Aeron o Ddarowen ger Machynlleth, ac mae e'n gweithio ar fferm gwartheg a defaid y teulu gyda'i dad a'i frawd. Mae Aeron yn berfformiwr profiadol, ac mae'n mwynhau cynhyrchu a chyfarwyddo sioeau llwyfan a dramâu gyda'r Clwb Ffermwyr Ifainc. Mae e hefyd yn teithio gyda'i fand ei hun, Hufen Iâ Poeth.
Yn ystod misoedd y gaeaf, mae Aeron yn gwneud rhywfaint o waith weldio ar y fferm ac yn ystod yr haf, mae'n teithio ffermydd lleol fel contractir cneifio.
"Dwi'n cystadlu yn rhywbeth neu ei gilydd byth a hefyd, a dwi'n ffynnu arno" meddai Aeron. "Dwi ddim yn siŵr sut siâp fydd arna i yn Fferm Ffactor, ond bydda i'n siomedig os na wnaf i 'ngorau - dyna fy ofn fwyaf."
Pwy fuasech chi'n eu gwahodd i swper mewn byd delfrydol?
"Dwi’n aelod o fand o’r enw Hufen Iâ Poeth, felly baswn yn gofyn i weddill y band i ddod draw am swper"