Neidio at y cynnwys

S4C

Fferm Ffactor

Huw

Huw
  • Wedi gadael yn wythnos 2
  • Enw: Huw Thomas Jones
  • Oed: 39
  • Cartref: Llwyngwril

Liw dydd, mae Huw Thomas Jones o Lwyngwril, Meirionnydd, yn rhedeg ei fusnes contractio coedwigaeth ei hun, ond mae'n treulio'i amser sbâr yn datblygu ei fferm organig wedi ei lleoli fry uwchben y môr yn edrych dros Fae Aberteifi. Mae Huw yn briod â Menna, sy'n athrawes, ac mae gyda nhw ddau o blant ifanc sy'n mwynhau helpu ar y fferm.

"Joies i gyfres gyntaf Fferm Ffactor, a phan glywais i fod ail gyfres i fod, penderfynais i roi cynnig arni," meddai Huw.

"Hyd yn oed os na enilla i, gobeithio caf i rywbeth mas o'r profiad - dwi'n meddwl fod gosod heriau newydd i chi'ch hunan yn bwysig iawn."

Pwy fuasech chi'n eu gwahodd i swper mewn byd delfrydol?

"Mike Phillips oherwydd rwy'n dilynwr brwd o rygbi ac yn credu ei fod yn un o fewnwyr gorau'r byd ar hyn o bryd."

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales