Iwan Huws
- Wedi gadael yn wythnos 6
- Oed: 37
- Cartref: Bodedern
Mae Iwan yn cyfaddde'i hun ei fod yn berson cystadleuol iawn, a dros y blynyddoedd, mae e wedi bod yn weithgar iawn gyda Chlwb Ffermwyr Ifainc Sir Fôn a thîm tynnu rhaff y Black Lion. Mae e'n briod â Llinos, ac maen nhw a'u plant ifanc yn byw ar fferm laeth ym Mhenrhos, Bodedern, lle maen nhw'n godro gyr o wartheg Ayrshire.
Mae Iwan yn barod am unrhyw her, ond mae e'n gobeithio na fydd ei agwedd e at ddefaid yn anfanteisiol iddo.
"Mae'n gas gen i ddefaid," meddai Iwan. "Dim ond dau beth maen nhw eisiau eu gwneud, sef pori lle na ddylen nhw a marw. Dwi ond yn gobeithio bydd 'na'm gormod o heriau o natur wlanog i ni."
Pwy fuasech chi'n eu gwahodd i swper mewn byd delfrydol?
"Ble dwi fod i ddechrau?! Daloni Metcalfe, Joe Calzaghe, tîm pêl-droed Arsenal... Buaswn i hefyd yn licio rhoi'r byd yn ei le hefo Nelson Mandela."