Iwan Price
- Daeth yn ail yn Fferm Ffactor 2010
- Enw: Iwan Price
- Oed: 40
- Cartref: Cerrigydrudion
Cafodd Iwan, sy'n dad i bedwar o blant, dipyn o syndod pan ganodd y ffôn a dywedwyd wrtho fod rhywun wedi cynnig ei enw ar gyfer Fferm Ffactor 2010.
"Doedd gen i ddim syniad ar y cychwyn pwy oedd wedi cynnig fy enw, ond erbyn hyn dwi'n falch iawn i fod yn rhan o'r rhaglen. Dwi'n hoff o her, ac wrth fy modd yn cael trio pethau gwahanol, hyd yn oed os nad enilla i," dywedodd Iawn, sy'n ffermwr gwartheg a defaid o Gerrigydrudion.
Yn ei amser sbâr, mae Iwan yn mwynhau actio gyda'i grŵp drama lleol, ac mae ganddo dipyn o enw yn y gymuned fel diddanwr.
"Dwi wir yn edrych ymlaen at fod ar Fferm Ffactor, a dwi'n siŵr unwaith y bydd y tasgau'n dechrau, byddai'n reit gystadleuol," meddai Iwan.
Pwy fuasech chi'n eu gwahodd i swper mewn byd delfrydol?
"Unrhyw un o'r byd actio fydd yn gallu rhoi tips i fi gan fy mod yn dipyn o berfformwr yn fy amser sbâr."