Phillip
- Daeth yn drydydd yn Fferm Ffactor 2010
- Enw: Phillip Reed
- Oed: 42
- Cartref: Blaenannerch, Aberteifi
Mae'r ffermwr llaethdy Phillip Reed yn cyfaddef mai ei her fwyaf wrth gystadlu yn Fferm Ffactor bydd rheoli ei iaith.
"Pan 'mod i'n cynhyrfu am rywbeth, a dwi'n gwneud yn aml, mae fy iaith i'n dueddol o fynd yn eithaf lliwgar," meddai'r tad i dri o blant o Aberteifi.
Mae bod yn rhan o Fferm Ffactor yn ddelfrydol i Phillip. Fel bachgen ysgol, ffermio oedd ei unig ddiléit, ac roedd e hyd yn oed yn colli gwersi i fynd i'r mart anifeiliaid lleol lle'r oedd e'n prynu bargen neu ddwy.
"Mae ffermio yn fy ngwaed i, a dwi'n meddwl bod cystal siawns gyda fi ag unrhyw un i ennill teitl Fferm Ffactor a'r cerbyd," meddai.
Pwy fuasech chi'n eu gwahodd i swper mewn byd delfrydol?
"Rwy eisoes wedi cyfarfod â Dug Caeredin ar ôl iddo werthu da i fi llynedd. Ond bydde fe'n brofiad a hanner i gael cydweithio gyda Jamie Oliver yn y gegin."