Teifi
- Enillydd Fferm Ffactor 2010!
- Enw: Teifi Jenkins
- Oed: 27
- Cartref: Beulah, Castell Newydd Emlyn
Mae Teifi'n ffermio gwartheg a defaid ar fferm ei ddiweddar dad-cu yn Beulah, Castell Newydd Emlyn. Mae'n prynu tua 150 o wartheg stôr bob blwyddyn, ac yn ei amser sbâr mae'n mwynhau weldio. Mae'n ymgeisydd cyson mewn cystadlaethau aredig trwy Gymru gyfan.
"Dwi'n gystadleuol iawn, a bydden i wrth fy modd yn ennill yr Isuzu," meddai Teifi. "Dwi'n credu bydd cystadleuaeth ddifrifol o 'mlaen i, ac ar ôl gweld y gyfres gyntaf, dwi'n disgwyl i'r safon fod yn uchel. Wn i ddim beth i'w disgwyl o gwbl, ond os gwelaf i dasg aredig, bydda i'n ddigon hapus."
Pwy fuasech chi'n eu gwahodd i swper mewn byd delfrydol?
"Gareth Edwards gan fy mod yn gefnogwr rygbi brwd ac wedi cael fy magu yn gwylio a chwarae'r gamp."