Os ydych yn gwylio Ffermio neu'r Bwletinau Ffermio ar wasanaeth lloeren ddigidol (SKY) mae'n bosib cael gwasanaethau ychwanegol drwy ddefnyddio'r botwm coch ar eich teclyn llaw.
Mae'r gwasanaeth ar gael yn arferol yn ystod y rhaglenni ac am ddwyawr wedi'r rhaglenni orffen. Drwy bwyso ar y botwm coch , dewiswch Ffermio ar y ddewislen drwy ddefnyddio'r saethau i fyny ac i lawr i newid eich dewis. Wedyn pwyso ar 'select' ar Ffermio ac wedyn dewis ymhellach o fewn y gwasanaeth sy'n cynnig gwybodaeth bwrpasol am y canlynol:
Eitemau'r rhaglen
Prisiau'r farchnad
Tywydd
Digwyddiadau
Cystadleuaeth
Bydd y wybodaeth ar gael yn ystod y rhaglenni yma yn arferol ac am ddwyawr wedi'r darllediad :
Ffermio (Nos Lun 20.25)
Ffermio (Dydd Mawrth 14.10)
Ffermio (Dydd Sul 15.00)
Bwletin Ffermio (Dydd Mawrth 12.20)
Bwletin Ffermio (Dydd Gwener 12.20)
Mae'r gwasanaeth ar gael yn y Gymraeg a'r Saesneg, gan bwyso ar y botwm melyn i newid yr Iaith.