Gosod Cynnyrch
Bellach, caniateir gweithgarwch gosod cynnyrch yn rhaglenni S4C. Mae Ofcom yn gyfrifol am y rheolau ynghylch gosod cynnyrch, gan gynnwys yr hyn y mae modd ei ddangos a'r hyn nad oes modd ei ddangos ar y teledu. Mae'r canlynol yn cynnig trosolwg o'r rheolau hyn, gan esbonio sut y bydd modd i chi weld a yw rhaglen yn cynnwys gweithgarwch gosod cynnyrch neu beidio.
Beth yw gosod cynnyrch?
Ystyr gosod cynnyrch yw pan fydd cwmni yn talu sianel deledu neu gynhyrchydd rhaglen i gynnwys ei gynhyrchion neu ei frandiau mewn rhaglen. Er enghraifft, gallai cwmni ffasiwn dalu i gyflwynydd wisgo'i ddillad yn ystod rhaglen, neu gallai cwmni cynhyrchu ceir dalu i gymeriad sôn am un o'i geir yn ystod golygfa mewn drama.
Mae gosod cynnyrch wedi cael ei ganiatáu mewn ffilmiau a rhaglenni rhyngwladol (megis cyfresi drama o'r UD) ar deledu yn y DU ers nifer o flynyddoedd. Ers 28 Chwefror 2011, mae modd i raglenni teledu a gynhyrchir ar gyfer cynulleidfaoedd yn y DU gynnwys gweithgarwch gosod cynnyrch, ar yr amod eu bod yn cydymffurfio gyda rheolau Ofcom.
A yw hyn yn golygu y telir am yr holl gynhyrchion y byddaf yn eu gweld mewn rhaglen a gynhyrchwyd ar ôl y dyddiad hwn?
Na, mae cynhyrchwyr rhaglenni yn defnyddio 'propiau' hefyd (er enghraifft, er mwyn 'gwisgo' set mewn opera sebon ar y teledu). Y gwahaniaeth rhwng gosod cynnyrch a defnyddio propiau yw nad yw'r sianel deledu a chynhyrchydd y rhaglen yn cael unrhyw daliad am gynnwys propiau. Maent yn talu i'w defnyddio neu'n cael eu defnyddio am ddim, yn hytrach na chael eu talu i'w cynnwys, felly nid gweithgarwch gosod cynnyrch yw hwn.
Yn ogystal, mae'n bosibl y gallai cynnyrch ymddangos mewn rhaglen ar hap, nid oherwydd bod y cwmni wedi talu iddo gael ei gynnwys - er enghraifft, efallai y bydd aelod o'r cyhoedd sy'n cael eu cyfweld yn y stryd yn gwisgo dillad sy'n dangos logo cwmni.
Beth yw'r rheolau ynghylch gosod cynnyrch?
Mae Cod Darlledu Ofcom yn cynnwys rheolau ynghylch pa fath o gynhyrchion y mae modd eu lleoli mewn rhaglenni, ble y caniateir gweithgarwch gosod cynnyrch, a sut y bydd modd cynnwys cynhyrchion a leolir. Mae'r rheolau hyn yn ofynnol dan gyfraith y DU a chyfraith Ewrop.
Pa raglenni sy'n gallu cynnwys gweithgarwch gosod cynnyrch?
Caniateir gweithgarwch gosod cynnyrch mewn ffilmiau (gan gynnwys dramâu a rhaglenni dogfen), cyfresi teledu (gan gynnwys operâu sebon), sioeau adloniant a rhaglenni chwaraeon.
A oes unrhyw raglenni lle nad oes modd gosod cynhyrchion ynddynt?
Ni cheir gosod cynhyrchion mewn rhaglenni newyddion nac mewn rhaglenni ar gyfer plant.
Nid oes modd eu gosod mewn rhaglenni crefyddol, rhaglenni materion cyfoes na rhaglenni sy'n cynnig cyngor i ddefnyddwyr, a gynhyrchwyd ar gyfer cynulleidfaoedd yn y DU.
Pa gynhyrchion na fydd modd eu gosod?
Dan y darpariaethau gosod cynnyrch, nid oes modd gosod sigaréts a chynhyrchion tybaco eraill, ynghyd â meddyginiaethau sydd ar gael dan bresgripsiwn yn unig, mewn unrhyw raglenni. Dan y darpariaethau gosod cynnyrch, nid oes modd gosod diodydd meddwol, cynhyrchion hapchwarae, pob math arall o feddyginiaeth, bwyd a diod sy'n cynnwys llawer o fraster, halen neu siwgr na llaeth babanod, mewn unrhyw raglenni o'r DU. Yn ogystal, nid oes modd gosod cynhyrchion nad oes modd eu hysbysebu (megis drylliau ac arfau eraill) mewn rhaglenni o'r DU.
Sut mae modd gosod cynhyrchion?
Rhaid bod 'cyfiawnhad golygyddol' dros osod cynnyrch mewn rhaglen.Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i'r cynnyrch fod yn berthnasol i'r hyn y mae'r rhaglen yn ymwneud ag ef. Ni ddylai ymddangos fel pe bai cynnwys rhaglen yn cael ei greu neu'n cael ei wyrdroi, er mwyn cynnwys y cynhyrchion a osodir yn unig. Ni all rhaglenni hyrwyddo cynhyrchion a osodir neu roi gormod o sylw iddynt. Felly ni ddylid gwneud unrhyw honiadau ynghylch pa mor dda yw cynnyrch a osodir, neu wneud cymaint o gyfeiriadau at gynnyrch fel ei fod yn teimlo fel pe bai'n cael ei hyrwyddo.
Sut fyddaf yn gwybod bod rhaglen ar S4C yn cynnwys gweithgarwch gosod cynnyrch?
Os bydd rhaglen ar S4C yn cynnwys gweithgarwch gosod cynnyrch, rhaid i'r Sianel arddangos logo arbennig. Bydd hyn yn hysbysu'r gwylwyr bod y Sianel neu gynhyrchydd y rhaglen wedi cael eu talu i gynnwys cynhyrchion yn y rhaglen honno.
Dangosir y logo isod:

Rhaid dangos y logo ar ddechrau'r rhaglen, a'i ddangos eto ar ôl unrhyw egwyl ar gyfer hysbysebion yn ystod y rhaglen. Yn ogystal, rhaid ei ddangos ar ddiwedd y rhaglen.
Nid oes yn rhaid i sianelau teledu ddangos y logo ar raglenni a ddarlledwyd y tu allan i'r DU yn wreiddiol (er enghraifft, cyfres ddrama o'r UD a ddangosir yn y DU). Rhaid i unrhyw raglen sy'n cael ei chynhyrchu er mwyn ei darlledu ar sianel a drwyddedir gan Ofcom, gan gynnwys y rhai a ddarlledir y tu allan i'r DU, gynnwys y logo gosod cynnyrch yn ôl yr angen.
