Neidio at y cynnwys

S4C

S4C Gwyrdd

Holiadur Gwyrdd

Angharad Mair

Angharad Mair

Cyflwynydd a Chynhyrchydd Wedi 7

Ar raddfa o 1-10, pa mor wyrdd wyt ti'n meddwl wyt ti?

4 – dwi yn y categori 'gallai wneud yn well'.

Beth yw dy arfer mwyaf gwyrdd?

Prynu bwyd lleol.

Wyt ti'n gwybod beth yw dy ôl troed carbon ac wyt ti'n poeni?

Rwy'n gwybod ei fod yn uchel achos fy milltiroedd teithio i'r gwaith, a buaswn i wrth fy modd yn gallu lleihau hwnna. Felly dwi yn poeni, ond yn ymarferol, mae'n anodd ei wella ar hyn o bryd.

Faint wyt ti'n ailgylchu?

Poteli gwydr a phapurau newydd fwyaf, neu mae fy merched yn rhoi stŵr i fi!

Faint wyt ti'n ailddefnyddio?

Popeth! Fydda i ddim yn taflu unrhyw beth allai fod o werth i rywun arall. Fuaswn i byth yn taflu dillad ar unrhyw gyfrif – maen nhw'n mynd i siop elusen neu'n cael eu pasio at rywun arall bob tro.

Pa fath o fylbiau golau sydd gen ti?

Cymysgedd – mae'r bylbiau arbed ynni mor araf i oleuo'n iawn, sy'n fy ngwylltio i, braidd.

Wyt ti'n compostio?

Nac ydw.

Beth oedd y peth gwyrdd diwethaf wnest ti?

Diffodd y golau wrth adael y stafell – dwi'n un sy'n gwneud hynny'n reddfol. Mae 'nghenhedlaeth i'n wastraffus iawn o'i chymharu ag un ein rhieni – bwyd parod, gor-ddefnydd trydan a gwres canolog – ond dwi'n gweld y rhod yn troi gyda'r genhedlaeth nesaf yn mynd yn ôl at arferion mwy cynnil.

Wyt ti'n meddwl all pawb wneud gwahaniaeth?

Ydw. Mae'n dda ein bod ni i gyd yn ystyried y ffordd rydyn ni'n defnyddio adnoddau – mae'n llesol i'r amgylchedd, ond yn synnwyr cyffredin hefyd. Ond yn ogystal ag unigolion, mae'n rhaid i gwmnïau mawr gymryd cyfrifoldeb am eu cyfraniad nhw.

Os daw hi i'r dilyw, beth fuaset ti'n ei achub o dy gartref – ar wahân i'r teulu?

Ffotograffau a'r camera digidol – alla i ddim â meddwl am eu colli nhw.

Rhaglenni Gwyrdd

Cwm Glo Cwm Gwyrdd

Cwm Glo Cwm Gwyrdd

Mewn cyfres newydd ar gyfer yr hydref, bydd pedwar disgybl ysgol yn arwain eu teuluoedd at fywyd gwyrdd!

Gwefan Cwm Glo Cwm Gwyrdd

Byw yn yr Ardd

Byw yn yr Ardd

Pobl a'u gerddi yw canolbwynt cyfres newydd sbon, bob nos Iau 20:25

Gwefan Byw yn yr Ardd

Gwylio ar-lein

Popeth yn Wyrdd

Popeth yn Wyrdd

Ifor ap Glyn sydd yn ceisio gwneud popeth yn wyrdd.

Gwefan Popeth yn Wyrdd

Gwylio ar-lein

Natur Cymru

Natur Cymru - Iolo Williams

Iolo Williams sy'n cyflwyno cyfres gyffrous am dirwedd Cymru. Gwyrdd – blwyddyn o raglenni yn ymwneud â byd natur a'r amgylchedd.

Gwefan Natur Cymru

© 2008 S4C
O Gymru / Made in Wales