Neidio at y cynnwys

S4C

S4C Gwyrdd

Holiadur Gwyrdd

Bethan Gwanas

Bethan Gwanas

Cyflwynydd, Byw yn yr Ardd ac Ar y Lein, awdur, teithiwr a cholofnydd papur newydd

Ar raddfa o 1-10, pa mor wyrdd wyt ti'n meddwl wyt ti?

8 efallai?

Beth yw dy arfer mwyaf gwyrdd?

Dwi'n ailgylchu pob peth mae Cyngor Gwynedd yn gadael i mi ei ailgylchu yn y bocs glas, ac yn diffodd pob peth bob nos hefyd – dim byd ar standby.

Wyt ti'n gwybod beth yw dy ôl troed carbon ac wyt ti'n poeni?

Yn sgil Ar y Lein, mae'n siŵr ei fod o'n anferthol! Ond dwi'n trio dweud wrthyf i fy hun 'mod i'n galluogi pobl i weld y byd drwy ôl fy nhroed i fel nad oes angen iddyn nhw greu mwy o ddifrod. Ar y llaw arall, mae'n siŵr 'mod i'n perswadio pobl i deithio i rai o'r llefydd 'ma eu hunain... Ond pan dwi adre, dwi'n cerdded neu ar y beic yn aml. Ond weithiau'n gorfod cludo'r beic at lwybr diogel efo'r car yn gyntaf... o wel.

Faint wyt ti'n ail-gylchu?

Fy mhapurau, caniau, poteli bob pythefnos yn y bocs ailgylchu glas. Dim modd ailgylchu plastig yn amlach na phob hyn a hyn o fisoedd ar hyn o bryd (pan fydd fan arbennig yn dod i Ddolgellau), a dwi reit flin am y peth! Mae gen i fin compost hefyd a dwi'n defnyddio papurach, cardbord a sbarion coed i gynnau tân yn y tŷ.

Faint wyt ti'n ail-ddefnyddio?

Cryn dipyn: amlenni (mawr), papur lapio Nadolig, cardiau Nadolig i wneud labeli anrhegion, bagiau plastig fel bagiau bin, ac yn rhoi unrhyw ddillad nad ydw i'w hangen neu eu heisiau i ffrindiau neu i'r Groes Goch.

Pa fath o fylbiau golau sydd gen ti?

Y rhan fwya'n rai cyfeillgar bellach.

Wyt ti'n compostio?

Ydw, sbarion bwyd.

Beth oedd y peth gwyrdd diwethaf wnest ti?

Rhoi sbarion llysiau yn y compost bore 'ma.

Wyt ti'n meddwl all pawb wneud gwahaniaeth?

Ydw, yn bendant. Mae angen addysgu pawb. Dwi wedi sgwennu colofn ar y pwnc yn yr Herald yn ddiweddar.

Os daw hi i'r dilyw, beth fuaset ti'n ei achub o dy gartref – ar wahân i'r teulu?

Fy nyddiaduron. Ond mi fyddai'n anodd iawn gadael fy nghyfrifiadur gan fod gen i gymaint o waith ar ei hanner arno fo.

Rhaglenni Gwyrdd

Pawb a'i Farn

Dewi Llwyd

Rhaglen gwyrdd

Nos Iau 4 Rhagfyr 20:25

Cwm Glo Cwm Gwyrdd

Cwm Glo Cwm Gwyrdd

Bydd pedwar disgybl ysgol yn arwain eu teuluoedd at fywyd gwyrdd!

Gwefan Cwm Glo Cwm Gwyrdd

Gwylio ar Clic

Byw yn yr Ardd

Byw yn yr Ardd

Pobl a'u gerddi yw canolbwynt y gyfres hon.

Gwefan Byw yn yr Ardd

Popeth yn Wyrdd

Popeth yn Wyrdd

Ifor ap Glyn sydd yn ceisio gwneud popeth yn wyrdd.

Gwefan Popeth yn Wyrdd

Natur Cymru

Natur Cymru - Iolo Williams

Iolo Williams sy'n cyflwyno cyfres gyffrous am dirwedd Cymru. Gwyrdd – blwyddyn o raglenni yn ymwneud â byd natur a'r amgylchedd.

Gwefan Natur Cymru

© 2008 S4C
O Gymru / Made in Wales