Neidio at y cynnwys

S4C

S4C Gwyrdd

Holiadur Gwyrdd

Brychan Llyr

Brychan Llŷr

Cyflwynydd Rasus ar Garlam, perchennog tîpîs a cherddor dawnus

Ar raddfa o 1-10, pa mor wyrdd wyt ti'n meddwl wyt ti?

Licen i feddwl 'mod i'n 8 neu 9, ond os dwi'n onest, 4 achos yr holl yrru dwi'n neud.

Beth yw dy arfer mwyaf gwyrdd?

Mae rhedeg y tîpîs yn fusnes gwyrdd. Dwi'n annog ymwelwyr i gerdded tra'u bod nhw yn yr ardal yn lle gyrru, ac mae biniau ail-gylchu ar y safle iddyn nhw. Gartre, dwi'n tyfu llysiau ac yn lladd ŵyn i'w bwyta felly mae fy milltiroedd bwyd yn isel iawn.

Wyt ti'n gwybod beth yw dy ôl troed carbon ac wyt ti'n poeni?

Mae lot o nonsens ynghylch hyn yn fy marn i. Dylai pobl feddwl am ollyngiadau carbon fel rhan o'u hymdrech cyffredinol i fyw bywyd gwyrdd. Mae'n bwysig i beidio â mynd dros ben llestri hefyd – 'bach o synnwyr cyffredin sy eisiau.

Faint wyt ti'n ailgylchu?

Mae'r cyngor yn casglu papurau newydd a photeli a dwi'n trio peidio â thaflu mwy na sy raid.

Faint wyt ti'n ailddefnyddio?

Gymaint ag y galla i. Dwi'n dod o gefndir amaethyddol lle mae'n reddf i ailddefnyddio a pheidio gwastraffu dim.

Pa fath o fylbiau golau sydd gen ti?

Y rhai arbed ynni gan fwyaf.

Wyt ti'n compostio?

Ydw glei! Mae composter gyda fi ac mae popeth yn cael mynd i hwnna.

Beth oedd y peth gwyrdd diwethaf wnest ti?

Paratoi'r ddaear yn yr ardd ar gyfer plannu llysiau yn y gwanwyn.

Wyt ti'n meddwl all pawb wneud gwahaniaeth?

Ddim fel unigolion, nagw, mae eisiau i ni i gyd wneud ein siâr, ond dwi'n credu'n gryf fod y niwed rydyn ni wedi ei wneud i'r blaned yn sylfaenol a di-droi'n-ôl. Dwi ddim yn gwybod siwd all unrhyw un ddadlau nad dyn sydd wedi gwneud hyn. Mae'r adnoddau rydyn ni wedi seilio'n bywyd arnyn nhw, fel olew, yn mynd i redeg mas, a bydd angen datblygu technoleg amgen i ddarparu ynni.

Os daw hi i'r dilyw, beth fuaset ti'n ei achub o dy gartref – ar wahân i'r teulu?

Gelert y milgi, am ei fod e'n rhywbeth byw. Gallai'r ceffylau edrych ar ôl eu hunain mae'n siŵr, a gallen i gael camera a chyfrifadur 'to, ond ddim Gelert.

Rhaglenni Gwyrdd

Cwm Glo Cwm Gwyrdd

Cwm Glo Cwm Gwyrdd

Mewn cyfres newydd ar gyfer yr hydref, bydd pedwar disgybl ysgol yn arwain eu teuluoedd at fywyd gwyrdd!

Gwefan Cwm Glo Cwm Gwyrdd

Byw yn yr Ardd

Byw yn yr Ardd

Pobl a'u gerddi yw canolbwynt cyfres newydd sbon, bob nos Iau 20:25

Gwefan Byw yn yr Ardd

Gwylio ar-lein

Popeth yn Wyrdd

Popeth yn Wyrdd

Ifor ap Glyn sydd yn ceisio gwneud popeth yn wyrdd.

Gwefan Popeth yn Wyrdd

Gwylio ar-lein

Natur Cymru

Natur Cymru - Iolo Williams

Iolo Williams sy'n cyflwyno cyfres gyffrous am dirwedd Cymru. Gwyrdd – blwyddyn o raglenni yn ymwneud â byd natur a'r amgylchedd.

Gwefan Natur Cymru

© 2008 S4C
O Gymru / Made in Wales