Neidio at y cynnwys

S4C

S4C Gwyrdd

Holiadur Gwyrdd

Emyr Penlan

Emyr Penlan

Cyflwynydd Ralïo a cherddor

Ar raddfa o 1-10, pa mor wyrdd wyt ti'n meddwl wyt ti?

5

Beth yw dy arfer mwyaf gwyrdd?

Ailgylchu sbwriel, gyrru car disel, prynu/bwyta cynnyrch lleol pan yn bosibl.

Wyt ti'n gwybod beth yw dy ôl troed carbon ac wyt ti'n poeni?

Na, dwi ddim yn gwybod beth yw e, ac ydw, dwi'n poeni oherwydd fy mod yn hedfan gymaint.

Faint wyt ti'n ailgylchu?

Sbwriel, sef gwydr, metal, papur a photeli plastig.

Faint wyt ti'n ailddefnyddio?

Dillad y plant i gyd ac unwaith ry'n ni 'di gorffen gyda nhw ma' nhw'n mynd i'r siop elusen.

Pa fath o fylbiau golau sydd gen ti?

Bylbiau arbed ynni trwy'r tŷ.

Wyt ti'n compostio?

Na ond mae'r ci yn bwyta gwastraff bwyd i gyd.

Beth oedd y peth gwyrdd diwethaf wnest ti?

Dwi yn y broses o adeiladu tŷ gwyrdd (ffrâm coed) sydd wedi ei insiwleiddio'n dda gyda gwres canolog dan y llawr.

Wyt ti'n meddwl all pawb wneud gwahaniaeth?

Ydw, ond mae Prydain yn fach, mae angen addysgu'r byd.

Os daw hi i'r dilyw, beth fuaset ti'n ei achub o dy gartref – ar wahân i'r teulu?

Hen greiriau'r teulu: lluniau, hen dapiau fideo a ffilm o briodas Mam a Dad.

Rhaglenni Gwyrdd

Cwm Glo Cwm Gwyrdd

Cwm Glo Cwm Gwyrdd

Mewn cyfres newydd ar gyfer yr hydref, bydd pedwar disgybl ysgol yn arwain eu teuluoedd at fywyd gwyrdd!

Gwefan Cwm Glo Cwm Gwyrdd

Byw yn yr Ardd

Byw yn yr Ardd

Pobl a'u gerddi yw canolbwynt cyfres newydd sbon, bob nos Iau 20:25

Gwefan Byw yn yr Ardd

Gwylio ar-lein

Popeth yn Wyrdd

Popeth yn Wyrdd

Ifor ap Glyn sydd yn ceisio gwneud popeth yn wyrdd.

Gwefan Popeth yn Wyrdd

Gwylio ar-lein

Natur Cymru

Natur Cymru - Iolo Williams

Iolo Williams sy'n cyflwyno cyfres gyffrous am dirwedd Cymru. Gwyrdd – blwyddyn o raglenni yn ymwneud â byd natur a'r amgylchedd.

Gwefan Natur Cymru

© 2008 S4C
O Gymru / Made in Wales