Ar raddfa o 1-10, pa mor wyrdd wyt ti'n meddwl wyt ti?
(Tua) 6
Beth yw dy arfer mwyaf gwyrdd?
Rwy’n ymdrechu i lenwi bagiau gwyrdd gyda hen bapurau newydd a photeli plastig.
Wyt ti'n gwybod beth yw dy ôl troed carbon ac wyt ti'n poeni?
A bod yn onest, nac ydw. Dwi ddim yn hedfan llawer ond rwy'n defnyddio fy nghar yn ddyddiol.
Faint wyt ti'n ail-gylchu?
Rwy’n ymdrechu i ailgylchu hen bapurau newydd a photeli plastig.
Faint wyt ti'n ail-ddefnyddio?
Rwy wedi dechrau ail-ddefnyddio bagiau plastig wrth fynd i siopa, ac yn ail ddefnyddio cartonau plastig o'r 'take-away' i gadw bwyd.
Pa fath o fylbiau golau sydd gen ti?
Rhai hen ffasiwn mae arna i ofn. Ond bydd rhaid imi brynu rhai mwy gwyrdd yn y dyfodol.
Wyt ti'n compostio?
Does gen i ddim gardd, felly dwi ddim yn compostio.
Beth oedd y peth gwyrdd diwethaf wnest ti?
Wnes i roi’r bagiau gwyrdd allan neithiwr!!
Wyt ti'n meddwl all pawb wneud gwahaniaeth?
Yn bendant – ffordd o fyw ydi o, ac mae'r genhedlaeth iau yn cael ei haddysgu i fyw bywyd llawer mwy gwyrdd na fy nghyfnod i.
Os daw hi i'r dilyw, beth fuaset ti'n ei achub o dy gartref – ar wahân i'r teulu?
Fy nghap pêl-droed rhyngwladol dan 18!!
Rhaglen gwyrdd
Nos Iau 4 Rhagfyr 20:25
Bydd pedwar disgybl ysgol yn arwain eu teuluoedd at fywyd gwyrdd!
Pobl a'u gerddi yw canolbwynt y gyfres hon.
Ifor ap Glyn sydd yn ceisio gwneud popeth yn wyrdd.
Iolo Williams sy'n cyflwyno cyfres gyffrous am dirwedd Cymru. Gwyrdd – blwyddyn o raglenni yn ymwneud â byd natur a'r amgylchedd.
© 2008 S4C
O Gymru / Made in Wales