Ar raddfa o 1-10, pa mor wyrdd wyt ti'n meddwl wyt ti?
2, yn anffodus.
Beth yw dy arfer mwyaf gwyrdd?
Ailgylchu popeth – fel teulu o bedwar, rydyn ni dim ond yn taflu hanner bag o sbwriel bob pythefnos.
Wyt ti'n gwybod beth yw dy ôl troed carbon ac wyt ti'n poeni?
Nac ydw ond mae e'n warthus oherwydd yr holl deithio dwi'n ei wneud gyda 'ngwaith. Dwi'n hedfan dros y byd ac yn teithio hyd a lled Cymru yn y car – dwi'n gyrru tua 30,000 o filltiroedd y flwyddyn. Hoffwn i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn amlach ond dydy'r gwasanaeth ddim yn gyfleus yn aml iawn. Mae'n fy mhoeni'n ofnadwy.
Faint wyt ti'n ailgylchu?
Popeth y gallwn ni, ond dydy (Cyngor) Powys ddim yn gyrru lorri i'w gasglu, felly dwi'n gorfod ei yrru o'r ganolfan ailgylchu – sydd ddim yn wyrdd yn ei dro. Mae angen i'r cynghorau drefnu pethau'n fwy effeithiol.
Faint wyt ti'n ailddefnyddio?
Llwyth! Mae dillad yn mynd o'r mab hynaf i'r ieuengaf a dydyn ni ddim yn poeni'n ormodol am gael pob peth yn newydd.
Pa fath o fylbiau golau sydd gen ti?
Y rhai arbed ynni yn bennaf, ond dwi'n ffeindio'u bod nhw'n araf i oleuo a ddim mor llachar â'r rhai cyffredin. Os gallwn ni roi dyn ar y lleuad, siawns na all rhywun wneud yn well gyda'r rhain.
Wyt ti'n compostio?
Ydw – dwi wrthi'n gwneud yr ardd ar hyn o bryd a bydd mynydd o gompost yn barod i fynd arni!
Beth oedd y peth gwyrdd diwethaf wnest ti?
Ailgylchu.
Wyt ti'n meddwl all pawb wneud gwahaniaeth?
Ydw – y camau bach sy'n gwneud gwahaniaeth. Tase pawb yn diffodd y golau wrth adael ystafell, ac yn diffodd y teledu os oes neb yn ei wylio, buasai hi'n mynd yn ffordd o fyw, nid yn fwrn.
Os daw hi i'r dilyw, beth fuaset ti'n ei achub o dy gartref – ar wahân i'r teulu?
Cyllell dda – buasai angen lladd pysgod ac anifeiliaid, ac adeiladu cysgod o ryw fath. Buasai cyllell yn hanfodol.
Mewn cyfres newydd ar gyfer yr hydref, bydd pedwar disgybl ysgol yn arwain eu teuluoedd at fywyd gwyrdd!
Pobl a'u gerddi yw canolbwynt cyfres newydd sbon, bob nos Iau 20:25
Ifor ap Glyn sydd yn ceisio gwneud popeth yn wyrdd.
Iolo Williams sy'n cyflwyno cyfres gyffrous am dirwedd Cymru. Gwyrdd – blwyddyn o raglenni yn ymwneud â byd natur a'r amgylchedd.
© 2008 S4C
O Gymru / Made in Wales